Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Nodweddion Diogelwch Twnnel

Safety features of tunnel illustration

 

Tunnel lighting icon

GOLEUADAU TWNNEL

Goleuadau i wella gwelededd yn y twnnel.

ventilation system icon

SYSTEMAU AWYRU
I glirio llygredd a rheoli gwres a mwg i helpu gyda gwagu’r twnnel pan fo tân.

Fire extinguisher icon

OFFER DIFFODD TÂN
Mae gan y paneli argyfwng offer diffodd tân.

wayfinders icon

DYNODWYR LLWYBR
Yn dangos cyfeiriad a’r pellter i allanfeydd argyfwng i gerddwyr o’r twnnel.

cctv camera icon

TELEDU CYLCH CYFYNG
Mae’r system Teledu Cylch Cyfyng yno i helpu Canolfannau Rheoli Traffig i fonitro beth sy’n digwydd yn y twnnel ac i ganfod unrhyw   ddigwyddiadau.

tunnel public address system icon

Y SYSTEM P.A.
Lleolir cyrn sain drwy’r twnnel. Os oes unrhyw ddigwyddiad, gwrandewch ar unrhyw gyhoeddiadau a dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a roddir.

emergency sos phone icon

PANELI ARGYFWNG (SOS)
Mae gan y paneli argyfwng arwyddion wedi’u goleuo, offer diffodd tân a theleffonau SOS rhad ac am ddim sydd wedi’u cysylltu gyda’r Canolfan Rheoli Traffig.

emergency access door signs icon

DRYSAU MYNEDIAD ARGYFWNG
Gosodwyd drysau mynediad argyfwng mewn rhai twneli
i ganiatáu mynediad i’r gwasanaethau argyfwng o’r rhan o’r twnnel sydd heb ei effeithio. Ble fo’n bosib dylid gwacau’r twnnel drwy byrth y twnnel..

lane controll signal icon

ARWYDDION RHEOLI LONYDD
Yn dangos pa lonydd sydd yn agored neu wedi’u cau.Sylwch arnynt gan ufuddhau iddynt bob amser.