Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Datblygwyr

Mae gwybodaeth draffig Traffig Cymru ar gael i'w defnyddio mewn rhaglenni trydydd parti. Mae'r telerau ac amodau'n berthnasol ac yn amrywio yn ôl y math o borthiant data, fel y disgrifir yn y dudalen hon.

Ar gyfer pob math o ddata a geir gan Traffig Cymru, nodwch:

  • Ar gyfer pob math o ddata a geir gan Traffig Cymru, nodwch:
  • Mae telerau ac amodau gwefan Traffig Cymru, ei bolisi preifatrwydd a pholisïau hawlfraint yn berthnasol.
  • Mae'n rhaid cydnabod Traffig Cymru fel y ffynhonnell ddata.
  • Gellir diddymu mynediad os yw'r defnydd yn achosi i'n gwasanaethau gael eu diraddio.
  • Nid ydym yn gwarantu unrhyw lefelau o wasanaeth ac nid ydym yn gwarantu na fydd y data neu'r mynediad yn ddi-dor nac yn ddi-wall

Camerâu traffig byw

Mae delweddau llonydd o gamerâu Traffig Cymru ar gael gan weinydd mynediad cyfyngedig.

Mae mynediad yn ddarostyngedig i delerau ac amodau ychwanegol.

Mae porthiant data XML byw yn seiliedig ar y protocol DATEX II yn darparu enwau camera yn y Gymraeg a'r Saesneg, y cyfesurynnau, amser y diweddariad diwethaf a baner statws gweithredol. Fel arall, mae rhestr sefydlog ar ffurf csv ar gael i danysgrifwyr ar gais.

Cysylltwch â ni i wneud cais am fynediad. Rhowch eich enw, eich manylion cyswllt, enw'r sefydliad, disgrifiad o'r gwasanaeth rydych yn bwriadu ei ddarparu ac URL y wefan neu'r rhaglen lle bydd y delweddau'n cael eu harddangos.

RSS

Cyhoeddir cysylltiadau porthiant RSS yn y tudalen hon.

Mae'r dolenni RSS yn darparu data Traffig Cymru (Cymraeg a Saesneg) ar gyfer damweiniau, digwyddiadau mawr a gynlluniwyd a gwaith ffordd sylweddol sy'n effeithio ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru. Diweddarir y data bob 5 munud.

Does dim angen cofrestru.

Mae'r data ar gael ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn unig ac yn cael ei gynhyrchu gan Traffig Cymru. Gall y cofnodion allbwn felly fod yn wahanol i gynnwys arall gwefan Traffig Cymru sydd hefyd yn cynnwys data o ffynonellau allanol.

Twitter

Mae data Traffig Cymru ar gyfer damweiniau, gwaith ffordd mawr a digwyddiadau mawr a gynlluniwyd yn cael eu cyhoeddi ar gyfrifon Twitter yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Twitter yn cynnig amryw o opsiynau i ymgorffori trydariadau cyhoeddus i'ch gwefan. Gweler tudalennau cymorth Twitter am ragor o wybodaeth.

Porthiannau Twitter Traffig Cymru yw:

DATEX II ar damweiniau, digwyddiadau, gwaith ffordd, teledu cylch cyfyng a data arwyddion negeseuon amrywiol  

Mae data Traffig Cymru ar gael mewn fformat XML yn seiliedig ar y protocol DATEX II.

Mae'r data canlynol ar gael ar hyn o bryd yn y fformat hwn:

  • Digwyddiadau - diweddariadau dwyieithog ar ddigwyddiadau heb eu cynllunio a digwyddiadau mawr a gynlluniwyd
  • Gwaith Ffordd - diweddariadau dwyieithog ar gynlluniau gwaith ffordd mawr
  • CCTV - lleoliadau camera traffig, enwau a baner statws gweithredol
  • VMS - lleoliadau arwyddion negeseuon newidiol ar ochr y ffordd, enwau a negeseuon sy'n cael eu harddangos ar hyn o bryd

Mae mynediad wedi'i gyfyngu ac yn amodol ar delerau ac amodau ychwanegol.

Mae data ar gael ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd ac a gynhyrchir gan Traffig Cymru yn unig. Gall y cofnodion allbwn felly fod yn wahanol i gynnwys arall gwefan Traffig Cymru sydd hefyd yn cynnwys data o ffynonellau allanol.

Cysylltwch â ni i wneud cais am fynediad. Rhowch eich enw, eich manylion cyswllt, enw'r sefydliad, disgrifiad o'r gwasanaeth rydych yn bwriadu ei ddarparu ac URL y wefan neu'r rhaglen lle bydd y data'n cael ei arddangos.

Data llwybr dargyfeirio byw

Cyhoeddir data llwybr dargyfeirio byw Traffig Cymru a ddangosir mewn sgriniau map ar y wefan hon gan ddefnyddio rhaglenni a drwyddedir gan Elgin. Mae mynediad i'r data hwn i'w ddefnyddio mewn rhaglenni llwybr ar gael gan Elgin, yn amodol ar drwydded. Cysylltwch ag Elgin am ragor o wybodaeth.

Hypergysylltu

Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon hefyd i ddefnyddwyr greu cysylltiadau hyperdestun â'r wefan hon. Dylai tudalennau Traffig Cymru gael eu llwytho i mewn i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle.

Os hoffech gynnwys tudalennau gwe Traffig Cymru mewn safle porth, cysylltwch â ni gyda'ch enw, manylion cyswllt a disgrifiad o'ch safle porth.

Os hoffech arddangos rhif ffôn llinell wybodaeth Traffig Cymru, dangoswch ef fel "llinell wybodaeth Traffig Cymru 0300 123 1213". Peidiwch â chynnwys rhifau pellach o'n dewislen ffôn rhyngweithiol, gan fod y dewisiadau hyn yn gallu newid.