Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

ACGCC gwaith stryd a llwythau annormal

Ar ran Llywodraeth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) sy'n gyfrifol am reoli, cynnal a gwella'r rhwydwaith cefnffyrdd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae ein cyfrifoldebau'n cynnwys cyflawni swyddogaethau a ddirprwyir gan Weinidogion Cymru ac a ragnodir o dan amrywiol ddarpariaethau Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 mewn perthynas â chydlynu, trwyddedu a gorfodi gwaith mewn perthynas â materion priffyrdd.

Rhoddir dyletswydd ar ACGCC i sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei reoli’n effeithiol er mwyn lleihau tagfeydd i gerbydau a cherddwyr, cyn belled ag y bo’n rhesymol. Mae’n ofynnol fod gwaith i ddibenion ffyrdd a gwaith stryd gan wasanaethau cyhoeddus gael ei gynllunio a’u cydlynu i ystyried yr effaith ar ddefnyddwyr y ffordd. 

Ewch i'n Map Traffig i weld y gwaith ffordd sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws ein rhwydwaith.

Mae ACGCC yn anelu at sicrhau bod y rhwydwaith cefnffyrdd sydd yn cynnwys ffyrdd a phalmentydd, yn cael eu cadw’n glir o rwystrau ac yn ddiogel i’w defnyddio. Fodd bynnag, nad yw hyn bob amser yn bosib pan fydd gwaith adeiladu ac adnewyddu yn mynd ymlaen ar eiddo cyfagos a ffryntiau. Mewn achosion lle mae’r angen gennych i rwystro’r briffordd, bydd yn hanfodol i chi wneud cais am drwydded neu ganiatâd i wneud hynny. 

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen yn y dudalen hon ar gyfer y math perthnasol o rwystr.

Mae’n drosedd i berson, heblaw’r Awdurdod Stryd i osod offer mewn stryd, neu dorri i fyny neu agor strydoedd at y diben o adnewyddu neu ailosod cyfarpar, oni bai eich bod a hawl statudol neu gael trwydded gwaith stryd.

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen yn y dudalen hon ar gyfer y math perthnasol o drwydded.

Llwyth annormal yw unrhyw gerbyd sydd ag unrhyw un o’r nodweddion a ganlyn:

  • Pwyso mwy na 44,000 cilogram
  • Llwyth echel o fwy na 10,000 cilogram ar gyfer echel ddim yn gyrru (non-driving) sengl a 11,500 cilogram ar gyfer echel yrru sengl
  • Mwy na 2.9 metr o led
  • Hyd anhyblyg o fwy na 18.65 metr

Os ydych yn gyfrifol am gludo llwyth annormal, rydych angen dilyn rheoliadau ar gyfer hysbysu’r awdurdodau. ACGCC sy’n gyfrifol am yr holl gefnffyrdd yn Ne Cymru felly bydd angen i chi ein hysbysu ynghylch unrhyw lwyth annormal fydd yn cael ei gludo ar ein rhwydwaith ACGCC.

Y dull a ffafrir ar gyfer derbyn hysbysiadau yw drwy ESDAL (Electronic Service Delivery for Abnormal Loads)

Yn ddibynnol ar y llwyth y byddwch yn ei symud a’r llwybr y byddwch yn teithio arno, mae’n bosib y byddwch angen rhoi rhybudd ymlaen llaw i:

  1. Yr heddlu (Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys)
  2. Awdurdodau priffyrdd eraill
  3. Perchnogion pontydd a strwythurau megis Network Rail

 

I gysylltu â ni, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 0300 123 1213.

Lawrlwythwch y trwyddedau a ffurflenni cais isod