Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gyrru mewn eira a rhew

EIra-Snow

Gall eira a rhew fod yn beryglus i yrwyr ac felly mae'n bwysig deall sut i ymdopi i'r amodau yn ddiogel. 

Cyn teithio, gwiriwch ein rhybuddion traffig am gyfyngiadau ffyrdd neu os yw rhai ffyrdd ar gau. Os ydych yn ymholi am ffordd sydd ddim yn gefnffyrdd, bydd angen i chi holi eich awdurdod lleol.


Cyn i chi deithio

 

Oes angen i chi deithio?

Ydy eich taith yn hanfodol neu a all aros nes bydd y tywydd yn gwella? Os ydy, dilynwch gyngor eich Heddlu lleol, gwiriwch ragolygon y tywydd, ac ystyriwch os oes ffyrdd eraill i deithio er enghraifft gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cofiwch - i gynllunio ar gyfer eich taith yn ôl hefyd.

 

Sut gallaf baratoi ar gyfer gyrru mewn amodau rhewllyd?

Gwnewch yn siŵr bod chi'n gallu gweld yn llwyr o'ch ffenestr flaen a bod eich cerbyd wedi'i ddadrewi. Dylai eich sychwyr (wipers) a goleuadau fod yn gweithio, a dylai fod gennych ddigon o danwydd yn eich car, mwy na sydd angen ar gyfer eich taith. Os ydych chi'n teithio'n aml ar ffyrdd rhewllyd, gall teiars gaeaf fod o fudd.

 

Beth ddylwn i ei gael yn fy nghar?

Rydym yn cynghori bod gennych yr eitemau canlynol yn eich cerbyd: crafwr iâ, tortsh gyda batris sbâr, blancedi, sbectol haul, dillad lliw llachar (fel hi-vis),boots, rhaw, a phecyn cymorth cyntaf.


Yn ystod eich taith

Cadwch at y prif ffyrdd os yn bosib

Mae'r prif ffyrdd yn fwy tebygol o fod wedi'u graeanu ac felly gall fod yn fwy diogel i'w gyrru.

 

Cofiwch addasu i'r amodau

Gwiriwch amodau'r ffyrdd. Cadwch mwy o bellter o draffig, mae'n ddoeth i osgoi dŵr wyneb, bydd angen i chi leihau cyflymder a chymryd gofal ychwanegol.

 

Arafwch

Mae'r pellter stopio mewn amodau rhewllyd ddeg gwaith yn fwy nag mewn amodau sych.

 

 


I gael rhagor o wybodaeth am yrru mewn eira neu rew, defnyddiwch yr adnoddau canlynol: