Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gyrru mewn niwl

foggy road

Gall niwl fod yn beryglus i yrwyr oherwydd mae'n lleihau gwelededd. Gall niwl ymddangos yn gyflym, felly mae rhaid i chi wybod sut i addasu i'r amodau yn ddiogel.

Cyn teithio, gwiriwch ein rhybuddion traffig am gyfyngiadau neu ffyrdd ar gau. Os ydych yn ymholi am ffordd sydd ddim yn gefnffyrdd, bydd angen i chi holi eich awdurdod lleol.


Cyn i chi deithio

 

Gwiriwch rhagolygon y tywydd

Os yw'r rhagolwg yn dangos niwl trwchus, ystyriwch a oes angen i chi deithio. Gall niwl ymddangos a diflannu'n gyflym, felly gall fod werth aros nes bydd y niwl yn clirio cyn cychwyn ar eich taith.

 

Deall eich goleuadau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â gosodiadau goleuadau a golau niwl eich car, a gallech eu defnyddio yn hyderus wrth yrru.

 

Gwiriwch eich cerbyd

Sicrhewch fod eich cerbyd yn gweithio ac mewn gwasanaeth i leihau'r siawns o dorri i lawr yn annisgwyl.


Yn ystod eich taith

Goleuadau niwl

Defnyddiwch oleuadau niwl pan fydd y gwelededd wedi'i leihau'n sylweddol ac o dan 100 metr.

 

Trochwch eich prif oleuadau

Sicrhewch fod eich prif oleuadau wedi'u trochi (dipped), a pheidiwch â defnyddio pelydr llawn (full beam) oherwydd mae niwl yn adlewyrchu golau ac yn gallu lleihau gwelededd.

 

Gwelededd gwael

Os na allwch weld, parciwch eich car yn ddiogel ac arhoswch nes bod y niwl wedi clirio cyn parhau â'ch taith.