Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gyrru mewn gwyntoedd cryfion

Picture of a tree

Mae gwyntoedd cryfion yn gallu bod yn beryglus i gerbydau, gall nerth y gwynt fod yn anisgwyl a gadael malurion ar y ffordd.

Cyn teithio, gwiriwch ein rhybuddion traffig am gyfyngiadau neu ffyrdd ar gau.Os ydych yn ymholi am ffordd sydd ddim yn gefnffyrdd, bydd angen i chi holi eich awdurdod lleol.


Cyn i chi deithio

Gwiriwch rhagolygon y tywydd

Cynlluniwch eich bod yn gwybod pa dywydd i ddisgwyl ar gyfer eich taith.

Oes angen i chi deithio?

Ystyriwch a oes angen i chi deithio neu a allwch ohirio eich taith?

Cerbydau ag ochrau uchel

Yn ystod cyfnodau o wyntoedd cryfion, bydd mwy o gyfyngiadau ar gerbydau ag ochrau uchel. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau hyn cyn teithio.

Gwiriwch eich cerbyd

Sicrhewch fod eich goleuadau'n gweithio a'ch bod yn gwybod sut i ddefnyddio y goleuadau niwl.


Yn ystod eich taith

Arafwch

Arafwch a byddwch yn wyliadwrus - efallai bydd malurion o goed, canghennau neu eitemau eraill sy'n cael eu chwythu gan y gwynt ar y ffordd.

Byddwch yn ymwybodol o fannau agored

Gwyliwch am fylchau rhwng coed, adeiladau, wrth basio cerbydau ag ochrau uchel neu wrth groesi pontydd – mae'r rhain yn fwy agored i wyntoedd cryfion. Cadwch digon o le ar y ddwy ochr i'ch cerbyd, rhag ofn caiff ei chwythu i'r ochr.

Rheolaeth

Gall gwyntoedd gwynt achosi eich cerbyd i ysgwyd a llithro. Cadwch reolaeth o'ch cerbyd bob amser trwy sicrhau bod y ddwy law ar yr olwyn.

 


Am adnoddau ychwanegol ar yrru mewn gwyntoedd cryfion, dilynwch yr adnoddau isod: