Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Cylchfan Dixton yr A40 – Gwaith i ailwynebu'r ffordd

Dyddiad dechrau: 21/09/2026| Dyddiad gorffen: 06/10/2026

A40 Dixton

Bydd gwaith ailwynebu hanfodol ar y ffordd gerbydau i gylchfan Dixton yn dechrau ar 21/09/2026 am 11 noson.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 11 noson rhwng 20:00 a 06:00. Bydd y gwaith yn cynnwys cau lonydd tua'r gogledd a'r de bob yn ail.

Bydd y gwaith yn digwydd dros nos ym mis Medi pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn îs, a hynny i leihau unrhyw darfu. 

Gwyriad i HGV

Ar gyfer traffig sy'n mynd tua'r de ar yr A40, teithio tua'r gogledd ar yr A40 hyd at gylchfan Phocle Green. Cymerwch y drydedd allanfa sy'n ymuno â'r M50, parhewch ar yr M50 hyd at System Gylchu Upper Strensham, cymerwch yr ail allanfa sy'n ymuno â'r M5. Parhewch ar yr M5 hyd at gyffordd 20 yr M4, cymerwch y ffordd ymadael gyntaf sy'n ymuno â'r M4 tua'r gorllewin. Parhewch ar yr M4 hyd at gyffordd 24 a chymryd y ffordd ymadael am yr A449. Dilynwch yr A449 ac yna ymuno â'r A40.

I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig tua'r gogledd.

Gwyriad i gerbydau nad ydynt yn HGV

Dilynwch yr A40 tua'r gogledd o Dixton a chymryd y drydedd allanfa yn y gylchfan yn Rhosan ar Wy i'r A40. Yn Highnam, bydd traffig yn cymryd y drydedd allanfa o'r gylchfan i'r A48 i Gas-gwent. Cymerwch yr ail allanfa yng nghylchfan Highbeech i'r A466, yna'r bedwaredd allanfa wrth gylchfan Newhouse i'r M48 tua'r gorllewin. Parhewch i'r M4 tua'r gorllewin i gyffordd 24 Coldra, gan gymryd y bedwaredd allanfa i'r A449 tua'r gogledd, yna'r A40 i Drefynwy a dychwelyd i'r man sydd wedi cau.

Traffig sydd ddim yn teithio ar y Draffordd

Fel yr uchod, ond cymerwch y drydedd allanfa yng nghylchfan Highbeech i gylchfan Coldra, gan gymryd y bumed allanfa i'r A449

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Facebook a X.