Diwrnod cychwyn: 02/11/2026 | Diwrnod gorffen: 07/11/2026
Gwaith i gynnal atgyweiriadau hanfodol i'r ffordd ar yr A55 tua'r gorllewin, o Hen Golwyn i Gyffordd Llandudno.
Bydd gwaith atgyweirio hanfodol i ffordd gerbydau'r A55 tua'r gorllewin rhwng Cyffordd 22, Hen Golwyn i Gyffordd 19, Cyfnewidfa Glan Conwy yn dechrau ar 02/11/2026 am 5 noson ddilynol.
Tua'r gorllewin - Cau ffordd gerbydau'r A55 yn llwyr tua'r gorllewin rhwng C22 Hen Golwyn a C19 Glan Conwy - gwyriad ar hyd yr A547 Ffordd Conwy drwy Fae Colwyn a Mochdre at y ffordd ymuno tua'r gorllewin yng Nghyffordd 19.
Bydd ffyrdd ymuno C22, C21, C20 ar ffordd gerbydau’r A55 hefyd wedi eu cau yn llwyr pan fo’r ffyrdd ar gau.
Tua'r dwyrain - Bydd lôn 2 ar brif ffordd gerbydau'r A55 tua'r dwyrain hefyd yn cael ei chau rhwng C19 a C22.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn îs, a hynny i leihau'r aflonyddwch.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG