Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Coedlan gymunedol newydd ger yr A479, Talgarth - i wella bioamrywiaeth a mynediad i fannau gwyrdd

Mouse on a branch stock image

Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) yn y broses o drosglwyddo rheolaeth dwy goedlan ifanc i grŵp Coedlan Cymunedol Talgarth gyda’r cymorth o Llais y Goedwig y rhwydwaith coetiroedd cymunedol i Gymru. Byddant yn cydweithio i wella bioamrywiaeth a mynediad y gymuned i goedlannau lleol. 

Mae lleiniau'r goedlan ger yr Hen Ffordd sy'n mynd allan o Dalgarth, sy'n boblogaidd iawn i fynd â chŵn am dro ac fel llwybr cefn gwlad. Cawsant eu creu pan gwblhawyd ffordd liniaru A479 Talgarth a ffordd osgoi Bronllys yn 2007.  Diolch i'r cydweithio yma cafodd y safle fywyd newydd fel adnodd addysg cymunedol.   

Mae grŵp Coedlan Gymunedol Talgarth yn ymgymryd â gwaith rheoli'r goedlan i helpu i wella coedlannau lleol i fywyd gwyllt tra'n cynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o gynnyrch coed i helpu gostwng allyriadau carbon.  Maent yn darparu cyfleoedd hyfforddi i'w haelodau.   

Butterfly Stock image

Roedd y digwyddiad cyntaf ar safle'r Hen Ffordd yn cynnwys plygu gwrych ar hyd y ffordd i greu cynefin llawer gwell ar gyfer pathewod a madfallod cribog yn ogystal â'r amodau cynnes a heulog sydd orau gan nifer o rywogaethau cynhenid fel glöyn byw brith y coed (llun ar y dde). 

Hyfforddiant gosod llwyni yn Talgarth

Mae'r rhywogaeth yma'n hoffi amodau cynnes a heulog mewn mannau agored rhwng coed. Bydd y gwaith yma'n creu cymysgfa o fannau agored a mannau efo tyfiant trwchus gan greu cynefin mwy amrywiol ar hyd yr hen ffordd. Mae gweithgareddau fel hyn yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru drwy gynyddu defnydd y gymuned o fannau gwyrdd agored lleol a darparu cyfleoedd hyfforddiant drwy reoli coedlannau yn gynaliadwy. 

Yn ogystal â gwella bioamrywiaeth, mae cynllun Ffordd Liniaru Talgarth a Ffordd Osgoi Bronllys hefyd yn darparu ffordd amgen i HGVs sy'n teithio drwy'r dref farchnad hanesyddol ac mae wedi gwella amseroedd teithio o'r Fenni i Lanfair ym Muallt. Derbyniodd prosiect y ffordd sgôr CEEQUAL Ardderchog o 82.9% - cynllun gwobrwyo wedi ei seilio ar asesiad o dystiolaeth cynaliadwyedd i brosiectau peirianneg sifil.   

Ers ei greu, mae prosiect y ffordd wedi cynnwys mesurau lliniaru i ystod eang o rywogaethau gwarchodedig, fel ystlumod pedol lleiaf, moch daear, dyfrgwn a phathewod. Er enghraifft, adeiladwyd cwlfert mawr i ganiatáu i ystlumod pedol lleiaf groesi'r ffordd yn ddiogel. Mae Cwlfert Pendre hefyd yn cynnwys cwrs dŵr tymhorol, silffoedd mamaliaid i foch daear a dyfrgwn a silff lefel uchel i bathewod i gysylltu cynefin ar bob ochr i'r ffordd newydd.   


Yn ystod y gwaith adeiladu, cafodd ACGCC hadau gwair o ddolydd lleol sy'n gyforiog o rywogaethau i sicrhau bod y mathau lleol cynhenid o'r fflora yn ffynnu.  Bellach rheolir hyn fel glaswelltiroedd blodau gwyllt. Er enghraifft, mae'r toriadau yn cael eu tynnu i sicrhau bod ffrwythlondeb y safle yn parhau i fod yn isel sy'n darparu'r amodau gorau posibl ar gyfer blodau gwyllt.

Mae'r gwaith monitro wedi dangos bod ystlumod pedol lleiaf yn defnyddio'r tanffordd a bod moch daear a dyfrgwn hefyd yn bresennol.  Mae cyrsiau dŵr gerllaw o bosib wedi dangos rhai o'r poblogaethau cryfaf o gimychiaid yr afon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae hyn yn rhan o ymroddiad Llywodraeth Cymru i gynyddu bioamrywiaeth ar hyd Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru fel yr amlinellir ym menter y Coridorau Gwyrdd. Bydd y bartneriaeth rhwng grŵp cymunedol y goedlan leol, Llywodraeth Cymru a ACGCC yn datblygu astudiaethau achos i fesur effeithiau cadarnhaol cynlluniau fel hwn.  

Mae modd i chwi weld pryd a ble mae cynefinoedd ymyl y ffordd yn cael eu gwella a sut mae hyn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu bioamrywiaeth ar y rhwydwaith trwy dilyn y dolenni ar y dde.