Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) yn y broses o drosglwyddo rheolaeth dwy goedlan ifanc i grŵp Coedlan Cymunedol Talgarth gyda’r cymorth o Llais y Goedwig y rhwydwaith coetiroedd cymunedol i Gymru. Byddant yn cydweithio i wella bioamrywiaeth a mynediad y gymuned i goedlannau lleol.
Mae lleiniau'r goedlan ger yr Hen Ffordd sy'n mynd allan o Dalgarth, sy'n boblogaidd iawn i fynd â chŵn am dro ac fel llwybr cefn gwlad. Cawsant eu creu pan gwblhawyd ffordd liniaru A479 Talgarth a ffordd osgoi Bronllys yn 2007. Diolch i'r cydweithio yma cafodd y safle fywyd newydd fel adnodd addysg cymunedol.
Mae grŵp Coedlan Gymunedol Talgarth yn ymgymryd â gwaith rheoli'r goedlan i helpu i wella coedlannau lleol i fywyd gwyllt tra'n cynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o gynnyrch coed i helpu gostwng allyriadau carbon. Maent yn darparu cyfleoedd hyfforddi i'w haelodau.
Roedd y digwyddiad cyntaf ar safle'r Hen Ffordd yn cynnwys plygu gwrych ar hyd y ffordd i greu cynefin llawer gwell ar gyfer pathewod a madfallod cribog yn ogystal â'r amodau cynnes a heulog sydd orau gan nifer o rywogaethau cynhenid fel glöyn byw brith y coed (llun ar y dde).
Mae'r rhywogaeth yma'n hoffi amodau cynnes a heulog mewn mannau agored rhwng coed. Bydd y gwaith yma'n creu cymysgfa o fannau agored a mannau efo tyfiant trwchus gan greu cynefin mwy amrywiol ar hyd yr hen ffordd. Mae gweithgareddau fel hyn yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru drwy gynyddu defnydd y gymuned o fannau gwyrdd agored lleol a darparu cyfleoedd hyfforddiant drwy reoli coedlannau yn gynaliadwy.
Yn ogystal â gwella bioamrywiaeth, mae cynllun Ffordd Liniaru Talgarth a Ffordd Osgoi Bronllys hefyd yn darparu ffordd amgen i HGVs sy'n teithio drwy'r dref farchnad hanesyddol ac mae wedi gwella amseroedd teithio o'r Fenni i Lanfair ym Muallt. Derbyniodd prosiect y ffordd sgôr CEEQUAL Ardderchog o 82.9% - cynllun gwobrwyo wedi ei seilio ar asesiad o dystiolaeth cynaliadwyedd i brosiectau peirianneg sifil.
Ers ei greu, mae prosiect y ffordd wedi cynnwys mesurau lliniaru i ystod eang o rywogaethau gwarchodedig, fel ystlumod pedol lleiaf, moch daear, dyfrgwn a phathewod. Er enghraifft, adeiladwyd cwlfert mawr i ganiatáu i ystlumod pedol lleiaf groesi'r ffordd yn ddiogel. Mae Cwlfert Pendre hefyd yn cynnwys cwrs dŵr tymhorol, silffoedd mamaliaid i foch daear a dyfrgwn a silff lefel uchel i bathewod i gysylltu cynefin ar bob ochr i'r ffordd newydd.
Yn ystod y gwaith adeiladu, cafodd ACGCC hadau gwair o ddolydd lleol sy'n gyforiog o rywogaethau i sicrhau bod y mathau lleol cynhenid o'r fflora yn ffynnu. Bellach rheolir hyn fel glaswelltiroedd blodau gwyllt. Er enghraifft, mae'r toriadau yn cael eu tynnu i sicrhau bod ffrwythlondeb y safle yn parhau i fod yn isel sy'n darparu'r amodau gorau posibl ar gyfer blodau gwyllt.
Mae'r gwaith monitro wedi dangos bod ystlumod pedol lleiaf yn defnyddio'r tanffordd a bod moch daear a dyfrgwn hefyd yn bresennol. Mae cyrsiau dŵr gerllaw o bosib wedi dangos rhai o'r poblogaethau cryfaf o gimychiaid yr afon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae hyn yn rhan o ymroddiad Llywodraeth Cymru i gynyddu bioamrywiaeth ar hyd Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru fel yr amlinellir ym menter y Coridorau Gwyrdd. Bydd y bartneriaeth rhwng grŵp cymunedol y goedlan leol, Llywodraeth Cymru a ACGCC yn datblygu astudiaethau achos i fesur effeithiau cadarnhaol cynlluniau fel hwn.
Mae modd i chwi weld pryd a ble mae cynefinoedd ymyl y ffordd yn cael eu gwella a sut mae hyn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu bioamrywiaeth ar y rhwydwaith trwy dilyn y dolenni ar y dde.