Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gyrru'n ddiogel yn y gaeaf

Gall tywydd y gaeaf effeithio ar ffyrdd ledled Cymru, pan fydd eira, rhew, glaw trwm, neu wyntoedd cryfion gall amodau gyrru fod yn anodd. Dyma rai awgrymiadau i wneud eich taith chi yn fwy diogel.


Paratowch eich cerbyd

Mae cadw eich cerbyd mewn cyflwr da yn golygu gallwch ymdopi ag amodau gyrru anodd. Bydd hyn yn eich helpu chi ac eraill i gadw'n ddiogel ar y ffordd.

  • Sicrhewch fod eich cerbyd wedi cael gwasanaeth
  • Sicrhewch fod batri'r car mewn cyflwr da
  • Gwiriwch yr holl deiars
  • Gwiriwch eich sychwyr (wipers), goleuadau, a dangosyddion (indicators).
  • Cadwch y ffenestr flaen a'r ffenestri yn lân, a bod gennych sgrin golchi (screenwash).

Cynlluniwch eich taith

  • Gwiriwch fapiau, diweddariadau traffig, ac amserlenni gwaith ffordd cyn teithio.

  • Rhowch amser ychwanegol i gyrraedd pen eich taith yn ddiogel.
  • Gyrrwch yn ôl amodau tywydd, gan gadw pellter diogel a chadwch yn effro.

Paciwch fag i'r gaeaf

Paciwch rai eitemau defnyddiol rhag ofn bydd eu hangen:

  • Rhywbeth i grafu iâ (ice scraper)
  • Tortsh a batris sbâr
  • Blancedi cynnes
  • Sbectol haul (gall haul isel y gaeaf fod yn ddisglair)
  • Gwifrau Cysllwt (jump leads)
  • Rhaw
  • Boots
  • Pecyn cymorth cyntaf
  • Dŵr

Dilynwch yr arwyddion ffordd

  • Edrychwch ar arwyddion ffordd sy'n darparu gwybodaeth bwysig
  • Gall arwyddion ffordd (VMS) ddangos cyflwr y ffordd, damweiniau, neu derfynau cyflymder.
  • Os gwelwch X coch ar arwydd lôn, mae'n golygu bod y lôn honno ar gau. Bydd angen i chi newid i'r lôn agored yn gyfreithlon ac yn ddiogel.

 


Cynnwys perthnasol