Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Sut rydym yn paratoi ar gyfer y gaeaf

Ar ddechrau pob gaeaf, rydyn ni’n trin tua 1900 cilometr o lwybrau yng Nghymru ac fel arfer yn treulio 83 noson yn taenu halen ar y ffyrdd.

 


Rydym yn monitro’r ffyrdd drwy gydol y dydd, a drwy gydol yr wythnos. Rydym yn defnyddio camerâu, data o lif traffig a rhagolygon tywydd i wybod pryd i wneud gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf.

Ein Swyddogion Traffig, partneriaid cynnal a chadw a’r gwasanaethau brys sy’n penderfynu pa ardaloedd fydd yn cael eu graeanu, nhw sydd hefyd yn lleihau terfynau cyflymder ac yn gosod arwyddion uwchben i rybuddio modurwyr am dywydd garw ac amodau ffyrdd. Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am raeanu ffyrdd sydd ddim yn gefnffyrdd.