Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A44 Ponterwyd: Gwaith ailwynebu

Dyddiad cychwyn: 04/12/2024 | Dyddaid gorffen 23/12/2024

A44 Ponterwyd

A44 Ponterwyd – gwaith ail-wynebu hanfodol ar ffordd gerbydau rhwng 4 Rhagfyr dros nos rhwng 19:00 – 06:00.

4-23 Rhagfyr (19:00-06:00)

  • Bydd yr A44 ar gau ym Mhonterwyd er mwyn cwblhau gwaith atgyweirio hanfodol i thua 1500m o ffordd yr A44. 

Nid yw'r ffordd yn ddigon llydan i ymgymryd â'r gwaith yn ddiogel wrth gynnal o leiaf un lôn o draffig ar gyfer cerbydau, felly mae angen cau'r ffordd yn llwyr dros nos.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 19:00 – 06:00 drwy gau ffordd gerbydau yn llwyr, fodd bynnag, bydd y gwaith yn cael ei atal ar nosweithiau Sadwrn a Sul. 

Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fydd llif y traffig yn llai, a hynny i leihau'r aflonyddwch. 

Y ffordd amgen ar gyfer cerbydau tua'r gorllewin yw trwy'r B4343 tua'r de yn Nyffryn Castell, tua'r gorllewin ar yr A4120 trwy Bontarfynach i Gylchfan Southgate, Aberystwyth ac yna tua'r gogledd trwy Heol y Bont i ail-ymuno â'r A44 yn Llanbadarn Fawr: ac i'r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau tua'r dwyrain.  

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG a Facebook@TraffcWalesG.