Dyddiad dechrau : 26/02/2024 | Dyddiad gorffen : 11/06/2024
Adeiladu dau gwlfert a gwelliannau draeniad hidlo cysylltiedig.
Byddwn yn cyfnewid dau gwrs dŵr cwlfert presennol sy’n croesi’r A470 ychydig i’r gogledd o Raeadr Gwy a fydd hefyd yn cynnwys adnewyddu’r draeniad hidlo presennol ar hyd rhan 300m o’r A470 sydd ar hyn o bryd yn agored i lifogydd o ddŵr wyneb a gorlifo’r cyrsiau dŵr dienw.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 26ain Chwefror a'r 11eg Mehefin 2024.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud heb fod angen cau unrhyw ffordd, er hynny bydd goleuadau traffig dwy-ffordd dros dro yn cael eu defnyddio am 24 awr y dydd yn ystod y cyfnod adeiladu.
Bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i symud yr holl reolaeth traffig dros dro o'r rhwydwaith yn ystod penwythnos y Pasg a chyfnodau embargo eraill.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG neu Facebook @TrafficWalesN.