Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A483 Heol Newydd/ Heol Llanfair, Llanymddyfri

Dyddiad Cychwyn :25/03/2024 | Dyddiad Gorffen :22/05/2024

A483 Llandovery

Gwaith i wneud gwelliannau i groesfannau cerddwyr yng nghyffiniau Ffordd Cilycwn a Stryd y Cerrig. Mae'r gwaith yn cynnwys tynnu’r ffordd i fynu, ail-wynebu troedffyrdd, a gosod croesfan i gerddwyr gyda signalau. Bydd y gwaith yn dechrau ar 25/03/2024 ac yn gorffen ar 22/05/2024.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 39 diwrnod rhwng 8:00 – 17:30 a 9:30 – 15:30 dan gau lonydd sengl i'r ddau gyfeiriad ar yr A483 Heol Newydd/Heol Llanfair yn Llanymddyfri.


2 Ebrill (8:00) – 12 Ebrill (17:30) a 15 Ebrill – 16 Ebrill
• Lonydd ar gau tua'r de

16 Ebrill (9:30) – 14 Mai (15:30) a 14 Mai – 22 Mai 
• Lonydd ar gau tua'r gogledd

 

* Sylwer, gall y rhaglen newid. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu.
 

Does dim angen gwyriad ar gyfer y gwaith hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TrafficWalesS.