Dyddiad cychwyn : 28/10/24 | Dyddiad dechrau : 22/11/24
Uwchraddio'r signalau traffig presennol wrth Gyffordd 20 tuag at y ffordd ymuno tua'r gorllewin.
Mae angen cynnal gwaith i uwchraddio'r signalau traffig presennol sydd wedi'u lleoli ar y ffordd ymuno tua’r gorllewin ar gyffordd 20 (Llandrillo-yn-Rhos), ger Garej Slaters ym Mae Colwyn.
Mae'r goleuadau traffig presennol wedi cyrraedd diwedd eu hoes ac nid yw'n economaidd i'w trwsio. Fel rhan o'r gwaith bydd cyfleusterau croesi i gerddwyr yn cael eu gosod ar draws Lôn Conwy (A547) a’r ffordd ymuno yng Nghyffordd 20.
Cynhelir y gwaith rhwng 08:00 – 18:00 ddydd Llun i ddydd Gwener
28 Hydref - 22 Tachwedd
Gosodir goleuadau traffig dwy ffordd ar Lôn Conwy (A547).
28 Hydref - 1 Tachwedd
Bydd y ffordd ymuno tua’r gorllewin yng Nghyffordd 20 ar gau fel bod modd gosod cyfleusterau croesi i gerddwyr.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG a Facebook @TrafficWalesN.