Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Cwestiynau Cyffredin am Gynllun Gwella yr A477 Mynegbost Nash

A477 Nash Fingerpost

Cwestiynau cyffredin am waith i addasu'r gyffordd bresennol, gosod goleuadau traffig newydd a goleuadau stryd yng nghyffordd Mynegbost Nash.

Mae Polisi Llywodraeth Cymru⁠ yn golygu bod rhaid ystyried mesurau:-

• sy'n cael yr effaith leiaf ar yr amgylchedd

• â'r gofynion tir lleiaf tu allan i ffin y briffordd ar gyfer datrysiadau trafnidiaeth.

Mae angen llawer o dir i osod cylchfan sy'n bodloni gofynion dylunio ac sy'n ddigon mawr i gerbydau trwm (HGVs). Byddai hyn yn niweidiol i'r amgylchedd. Hefyd, byddai'r tir sydd ei angen y tu allan i ffin y briffordd, a byddai hyn yn achosi oedi sylweddol o ran cwblhau'r cynllun diogelwch.

Yn ystod adegau penodol o'r dydd, gallai llif y traffig ar yr A477 atal cerbydau rhag gallu gadael yr A4075 yn ddiogel. Gallai hyn wneud gyrwyr yn rhwystredig ac arwain at ddamweiniau tebyg sydd eisoes wedi bod yn digwydd ar y gyffordd hon dros y blynyddoedd.

Ar y llaw arall, mae modd gosod signalau traffig o fewn ffin y gyffordd bresennol, ac ni fyddai angen unrhyw dir ychwanegol. Mae hyn yn golygu bod modd ei weithredu'n gynt.

Ar ôl gosod y drefn rheoli traffig i gychwyn, daeth rhai problemau i'r amlwg gydag amseriad y signalau traffig dros dro. ⁠

Ar ôl ymgynghori gyda'r contractwr, fe wnaed gwelliannau i liniaru'r tagfeydd traffig. Mae gweithredwyr rheoli traffig nawr yn rheoli ac yn monitro'r signalau traffig gyda llaw ar yr adegau prysuraf.

Pe bai'r contractwr yn gweithio dros nos ac yn symud y system rheoli traffig yn ystod y dydd, byddai hyn yn creu oedi mawr yn yr amser a gymerir i gwblhau'r cynllun diogelwch.

Y rheswm am hyn yw bod rhaid gwneud y safle'n ddiogel yn ystod y dydd. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn yr ardaloedd cloddio ac ati. Byddai amser yn cael ei golli wrth dynnu/gosod y system rheoli traffig ar ddechrau a diwedd pob shifft.

Mae'n bosib y byddai'r awdurdod lleol yn cyfyngu ar weithio dros nos oherwydd bod eiddo preswyl gerllaw. Byddai'r cyfyngiadau sŵn hyn yn ymestyn amserlen y prosiect.

Hefyd, oherwydd natur y gwaith, mae'n fwy diogel i'r gwaith gael ei wneud yn ystod oriau golau dydd.

Gan mai cynllun gwella diogelwch yw hwn, mae angen ei gwblhau cyn gynted â phosib. Wrth weithio yn ystod misoedd yr haf gall y contractwr weithio am 12 awr y dydd.

Pe bai'r gwaith yn cael ei stopio dros y gwyliau haf, byddai'n cymryd hirach i gwblhau'r cynllun. Byddai hyn wedyn yn symud y gwaith i'r gaeaf, gan achosi rhaglen adeiladu hirach.

Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y ffyrdd hyn, ac felly ni all Llywodraeth Cymru stopio cerbydau rhag eu defnyddio.

Fodd bynnag, bydd arwyddion cynghorol dros dro sy'n dweud 'Mynediad yn Unig' yn cael eu darparu wrth yr holl gyffyrdd lleol.