Dyddiad Dechrau:12/03/2024 | Dyddiad Gorffen:21/06/2024
Bydd gwaith i ail-wynebu’r ffordd gerbydau hanfodol i ran 8Km yr A40 i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd yr A40/A449 yn Rhaglan a chyffordd yr A40/A466 i’r Gogledd o Dwneli Gibraltar yn Nhrefynwy, yn dechrau ar 12/03/2024 heb gynnwys penwythnosau.
Mae'r gwaith hwn wedi cael ei ohirio oherwydd tywydd garw.
Gwaith dros nos 30 Ebrill wedi cael ei ganslo oherwydd tywydd garw
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 20:00 – 06:00 ar ôl cau'r gerbytffordd tua'r Gogledd a'r De yn llawn o gyffordd Rhaglan A40/A449 a Chyffordd yr A40/A466 i'r Gogledd o Dwneli Gibraltar yn Nhrefynwy.
Tua’r gogledd
12 Mawrth 20:00 - 09 Mai 06:00 (ac eithrio penwythnosau a gŵyl y banc)
- A40 ar gau dros nos tua'r Gogledd rhwng cyffordd yr A40/A449 yn Rhaglan a Chyffordd yr A40/A466 rhwng 20:00 – 06:00.
- Lôn ymuno A40/ A449 tua'r gogledd ar gau rhwng 20:00 – 06:00.
- Lonydd ymadael ac ymuno Gwasanaethau Trefynwy i’r Gogledd ar gau dros nos rhwng 20:00 – 06:00.
- Bydd dim gwaith dros emabrgo gŵyl y banc 2 Mai 12:00 - 7 Mai 10:00.
Tua’r de
9 Mai 20:00 - 21 Mehefin 06:00 (ac eithrio penwythnosau a gŵyl y banc)
- Ffordd ar gau dros nos yr A40 tua'r De rhwng Cyffordd yr A40/A466 a chyffordd yr A40/A449 yn Rhaglan rhwng 20:00 – 06:00.
- Ffordd ar gau dros nos yr A40 lôn ymuno yn Llanfihangel Troddi rhwng 20:00 a 06:00.
- Slipiau ffordd ar gau ar Wasanaethau Trefynwy tua’r de dros nos rhwng 20:00 – 06:00.
- Bydd dim gwaith dros emabrgo gŵyl y banc 23 Mai 12:00 - 28 Mai 10:00.
Gwyriad
Bydd traffig tua'r gogledd yn cael ei ddargyfeirio gan ddefnyddio'r A449 i Gyffordd 24 yr M4, yr M4 tua'r dwyrain ar draws pont Tywysog Cymru gan ymuno â'r M5 ar Gyffordd 15, gan adael yr M5 yng Nghyffordd 8 i ymuno â'r M50 i'w therfyniad yn Ross on Wye lle gellir defnyddio'r A40.
Bydd traffig tua'r de yn cael ei ddargyfeirio gan ddefnyddio'r A40 i Ross on Wye, lle bydd yn ymuno â'r M50 lle mae'r traffig yn cwrdd â'r M5 ar Gyffordd 8. Bydd yn ymuno i deithio tua'r de i Gyffordd 15 lle bydd yn ymuno â'r M4, yn croesi pont Tywysog Cymru ac yn mynd ymlaen i Gyffordd 24. Yna ymuno â'r A449 i deithio tua'r Gogledd i Gyffordd yr A40/A449 Rhaglan
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD neu Facebook @TrafficWalesS