Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

M48 C2 i M4 C23, Tua'r Gorllewin, Gosod Arwyddion

Dyddiad dechrau: 15/04/24 | Dyddiad gorffen: 26/04/24

M4 at night

Bydd gwaith i osod arwydd traffig a rhwystr diogelwch ar ymyl yr M48 tua'r gorllewin rhwng C2 yr M48 a C23 yr M4 yn dechrau'n ysbeidiol am 7 noson. 15/04/2024

Mae'r arwydd traffig yn cael ei osod fel rhan o gynllun gwella ansawdd aer. Bydd yr arwydd yn cyfeirio traffig sy'n teithio tua'r gorllewin i Ddociau Casnewydd i adael yr M4 yn C23, gan anelu i leihau lefelau o allyriadau NO2 rhwng C25 a C26 yr M4.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 7 noson 20:00 - 06:00 ble bydd y ffordd gerbydau tua'r gorllewin wedi'i chau'n llwyr rhwng ffordd ymuno C2 tua'r gorllewin ar yr M48 a ffordd ymuno C23 tua'r gorllewin ar yr M4.

15/04/2024 – 17/04/2024 (2 noson)

19/04/2024 – 20/04/2024 (1 noson)

22/04/2024 – 26/04/2024 (4 noson)

Bydd y gwaith yn digwydd dros nos pan fo llif y traffig yn hanesyddol is, a hynny i leihau aflonyddwch. Bydd y ffordd yn ailagor erbyn 06:00 bob dydd ar ôl cau'r ffordd dros nos.

Bydd traffig sy'n teithio tua'r gorllewin yn cael ei ddargyfeirio o C2 yr M48 drwy'r M48 tua'r dwyrain i C20 yr M4, i C16 yr M5 tua'r de, yn ail-ymuno â'r M5 tua'r gogledd i C15, yn ymuno â C20 tua'r gorllewin ar yr M4 ac yn parhau tua'r gorllewin i C23 yr M4.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook  @TraffigCymruD.