Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Wythnos Diogelwch y Ffordd 2023

Picture explaining road safety week in Welsh

Mae Wythnos Diogelwch y Ffordd yn ymgyrch flynyddol, wedi'i threfnu gan Brake, elusen diogelwch y ffordd. Pob blwyddyn, mae miloedd o gymunedau, ysgolion a chwmnïau yn cymryd rhan i hyrwyddo diogelwch y ffyrdd lle maent yn byw ac yn gweithio. Mae Traffig Cymru yn cymryd rhan i helpu ledaenu neges Break, gyda'r gobaith y bydd yn achub bywydau.

Gadewch i ni siarad am newid cyflymder

Mae pump o bobl yn marw ar ffyrdd y DU pob diwrnod. Mae un o bob pedwar ohonynt yn ymwneud â goryrru fel ffactor a gyfrannodd atynt.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, cafodd 279 o ddynion a 50 o ferched ifanc rhwng 15 a 29 oed eu lladd mewn damweiniau traffig.

Mae’r tebygolrwydd o gael anaf yn cynyddu'n eithriadol gydag effaith cyflymder.  Mae gwrthdrawiad wrth yrru 30mya ddwywaith mor debygol o achosi anaf difrifol na gwrthdrawiad wrth yrru 20mya.

Mae gwrthdrawiad uniongyrchol rhwng dau gar yn trafaelio 30mya yn creu'r un egni â char unigol yn gwrthdaro â wal yn gyrru 60mya.

 

"Rwy'n troi ar ffyrdd ymuno/gadael yr A55 bob diwrnod ar fy ffordd i'r gwaith. Wrth droi un diwrnod yn y glaw roeddwn yn gallu teimlo'r car yn colli gafael a llithro ychydig er nad oeddwn wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol.

Rwy'n cofio hyn yn aml, peidio newid fy ymddygiad wrth i'r amodau newid, hyd yn oed ar gyfer symudiadau bychain". - Ewan.

"Gall fod yn demtasiwn i frysio adref ar ôl diwrnod hir. Ond dwi hefyd yn ymwybodol iawn fy mod wedi blino mwy ar ôl shifft 12 awr, felly efallai na fydd fy amser ymateb a ’ngallu i ganolbwyntio mor dda ag yr oedd ar ddechrau'r diwrnod." - Rhys

Ymunwch â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol, tagiwch @BrakeUk #WythnosDiogelwchyFfordd 

Trydar - @TraffigCymruD & TraffigCymruG

Facebook - @TraffigCymruD & @TraffigCymruG