Gwelwn bob math o deithwyr ar y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru. Rydym yn croesawu'r cynnydd diweddar mewn teithio llesol a byddwn yn parhau i wneud y rhwydwaith yn fwy gwyrdd ac yn fwy diogel i fodurwyr, beicwyr a cherddwyr fel ei gilydd.
Dyma ein cynghorion pennaf i holl ddefnyddwyr y ffordd ar sut i gadw'n ddiogel ar y rhwydwaith.
1. Gwiriwch eich cerbyd
Mae hi'n bwysig edrych ar ôl eich cerbyd. Mae'r rhan fwyaf o achosion o dorri i lawr ar draws y rhwydwaith yn rhai y gellid eu hosgoi pe byddai pawb yn cynnal a chadw eu cerbydau. Ddim yn siŵr beth i'w wirio? Cofiwch FLOWERS - tanwydd (fuel), goleuadau (lights), olew (oil), dŵr (water), rwber (rubber) a chi'ch hun (self).
2. Cofiwch y pump mwyaf difrifol (“fatal 5”)
Dyma'r pum prif beth sy'n achosi damweiniau ar y ffordd ac anafiadau yng Nghymru.
- peidiwch â gyrru dan ddylanwad
- lleihewch eich cyflymder
- peidiwch â gyrru'n ddiofal
- gwisgwch eich gwregys
- diffoddwch eich ffôn
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ufuddhau i reolau'r ffordd ond, yn anffodus, mae lleiafrif bach yn dewis eu rhoi eu hunain, eu teuluoedd a defnyddwyr eraill y ffordd mewn risg.
3. Cynllunio ymlaen llaw
Cynlluniwch ymlaen llaw fel nad oes angen i chi edrych ar fapiau ac unedau GPS er mwyn cyrraedd pen eich taith. Astudiwch y map neu gosodwch eich uned GPS cyn i chi adael fel eich bod yn gwybod lle'r ydych yn mynd.
Check the latest traffic information to avoid overcrowding at busy beauty spots across the network. Please consider travelling at quieter times so that social distancing rules can be maintained at all times.
4. Cadwch eich pellter
Dilynwch y rheol dwy eiliad. Does neb yn hoffi pan fo'r cerbyd y tu ôl i chi'n rhy agos, ac mae rheswm da am hynny. Yn enwedig ar gyflymder, mae angen i chi sicrhau bod gennych bellter stopio diogel rhyngoch chi a'r cerbyd sydd o'ch blaen chi.
5. Gyrrwch mewn ffordd sy'n briodol i'r amodau
Mae cyfyngiadau cyflymder yno er mwyn gyrru'n ddiogel dan amodau delfrydol. Mewn tywydd garw megis niwl, glaw, eira ac ati, defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a gwnewch addasiadau. Yn y sefyllfaoedd hyn, dylech ostwng eich cyflymder o dan y cyfyngiad cyflymder a sicrhau bylchau hirach rhyngoch chi a'r cerbyd sydd o'ch blaen chi oherwydd bydd amser stopio eich cerbyd yn cynyddu dan yr amodau hyn. Mae hefyd yn rheswm arall i wneud yn siŵr bod eich cerbyd yn ddiogel i'w yrru oherwydd gall pethau syml fel weipars fod yn broblem os nad ydynt yn gweithio'n iawn mewn glaw trwm.
6. Byddwch yn amyneddgar ac yn gwrtais â defnyddwyr eraill y ffordd
Wrth yrru, gall bod yn or-hyderus ladd. Os ydych chi'n sownd y tu ôl i gerbyd neu feiciwr gall hyn fod yn rhwystredig, ond os oes unrhyw amheuaeth, peidiwch â goddiweddyd. Arhoswch am gyfle diogel cyn i chi dynnu allan a phan fyddwch yn goddiweddyd beiciwr, gadewch lle o 1.5m o leiaf wrth basio.
1. Byddwch yn Weladwy!
Dylech wisgo neu gario rhywbeth llachar bob amser, a fydd yn help i chi gael ei gweld yn haws.
Yn ystod y dydd, gwisgwch ddillad â lliwiau llachar bob amser. Mae defnydd fflwroleuol hyd yn oed yn well gan ei fod yn eich helpu i sefyll allan a chael eich gweld.
Nid yw defnydd fflwroleuol yn gweithio yn y tywyllwch! Mae angen i chi wisgo rhywbeth adlewyrchol fel y gellir eich gweld pan fod goleuadau ceir yn disgleirio tuag atoch. Gall hyd yn oed darn bychan o ddefnydd adlewyrchol helpu gyrwyr i'ch gweld chi o belter.
2. Peidio â defnyddio'ch ffôn
Mae hi'n bwysig iawn eich bod yn canolbwyntio wrth groesi'r ffordd. Cadwch eich llygaid ar y ffordd a sicrhewch fod traffig wedi dod i stop cyn cerdded.
3. Croeswch yn ddiogel
Dylech groesi mewn lleoliadau diogel yn unig oherwydd. Ble bynnag a bo modd dylech ddefnyddio croesfannau i oherwydd maen nhw'n rhoi mwy o warchodaeth a gwelededd i gerddwyr a disgwyliadau uwch i yrwyr y gall cerddwyr fod yn bresennol. Cofiwch edrych i'r ddau gyfeiriad cyn croesi hefyd.
1.Byddwch yn Weladwy!
Mae'r un rheolau'n berthnasol ag i gerddwyr; rhaid i chi wneud eich hun mor weladwy â phosib. Gwisgwch neu cariwch rywbeth llachar bob amser a fydd yn help i eraill eich gweld. Peidiwch â thybio bod gyrwyr wedi'ch gweld chi a cheisiwch osgoi mannau dall gyrwyr eraill
Yn ystod y dydd, gwisgwch ddillad â lliwiau llachar bob amser. Mae defnydd fflwroleuol hyd yn oed yn well gan ei fod yn eich helpu i sefyll allan a chael eich gweld.
Nid yw defnydd fflwroleuol yn gweithio yn y tywyllwch! Mae angen i chi wisgo rhywbeth adlewyrchol fel y gellir eich gweld pan fod goleuadau ceir yn disgleirio tuag atoch. Gall hyd yn oed darn bychan o ddefnydd adlewyrchol helpu gyrwyr i'ch gweld chi o belter.
2. Cadwch at y rheolau traffig a'r cyfyngiadau cyflymder
Mae'n bosib bod hyn yn swnio'n syml, ond mae'n bwysig bod holl ddefnyddwyr y ffordd yn dilyn y rheolau traffig i gadw'u hunain ac eraill yn ddiogel. Mae cynnydd wedi bod mewn cyflymderau eithriadol yn ystod y cyfnod clo, gan fodurwyr a beicwyr modur hefyd. Bob diwrnod yn y DU, mae 60 o ddamweiniau traffig sy'n ymwneud â beiciau modur yn digwydd. Mae 16 yn arwain at anafiadau all newid bywyd, gydag o leiaf un farwolaeth bob dydd. Peidiwch â bod yn ystadegyn arall - cadwch at y cyfyngiadau cyflymder.
3. Gwisgwch y dillad cywir a helmed
Dylech bob tro wisgo helmed i warchod eich pen a'ch ymennydd. Anafiadau pen yw un o'r prif achosion marwolaeth ac anaf trawmatig i'r ymennydd i feicwyr mewn damweiniau traffig.
Mae gwisgo'r offer beicio modur cywir hefyd yn hanfodol. Mae'n eich gwarchod chi rhag yr elfennau, malurio a rash ffordd. Mae'r offer priodol yn cynnwys goglau, siaced ledr, trowsus lledr, bŵts sy'n mynd dros y ffêr a menig gwrthslip.
4. Gwyliwch allan am beryglon ffyrdd
Mae gyrru'n ofalus yn galluogi i chi ragweld problemau traffig a pheryglon ffordd. Gall tywod, olew a graean wneud i chi golli tyniant. Mae twmpathau a thyllau yn y ffordd yr un mor beryglus a dylech eu hosgoi. Croeswch traciau rheilffordd ar yr ongl briodol.
5. Gwiriwch y tywydd cyn mynd allan.
Gall glaw, rhew ac eira effeithio ar eich reid. Mae gyrru yn yr elfennau hyn yn beryglus i feicwyr oherwydd mae gennych lai o dyniant na char ac mae'r gwelededd yn is. Dewiswch ddiwrnod gwahanol os yw'r rhagolygon yn nodi tywydd gwael.
6. Archwiliwch eich beic / beic modur cyn i chi fynd allan bob tro.
Mae'n syniad da archwilio eich beic cyn i chi ddechrau ei reidio i sicrhau ei fod mor ddiogel â phosib.
Beic modur:- Gwiriwch eich goleuadau blaen, goleuadau ôl, signalau troi, brêcs, tanwydd, olew, pwysau'r teiars, drychau, llyw a chorn.
Beic:- Gwnewch y gwiriad 'M' yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod eich beic yn ddiogel i fynd ar y ffordd. Mae hyn yn cynnwys gwirio eich teiar blaen ac ôl a'r brêc, sedd, llyw, pedalau a'r gadwyn.
1. Cerbyd Llusgo
Mae'r cerbyd llusgo yn addas i dynnu'r caravan.
2. Cadwyni Diogelwch
Mae'r holl gadwyni diogelwch a chyplyddion wedi'u cysylltu i'r cerbyd.
3. Goleuadau
Mae goleuadau brêc, bacio, parcio a chyfeirwyr i gyd yn gweithio.
4. Breciau
Mae'r ddau frêc, a'r brêc llaw yn cysylltu ag yn rhyddhau.
5. Batri
Mae'r batri mewn cyflwr da a gyda digon o wefr.
6. Teiars
Mae teiars mewn cyflwr da a gyda'r gwasgedd cywir.
7. Nytiau'r Olwynion
Mae'r nytiau i gyd yno ac wedi eu tynhau yn gywir.