Dyddiad cychwyn: Haf 2021 | Dyddiad gorffen: Hydref 2024
Gwaith i wella’r ffordd rhwng Llanddewi Felffre, Penblewin a Redstone Cross. Bydd yr A40 rhwng Sanclêr a Hwlffordd yn cael ei uwchraddio i wella diogelwch ac i ymgorffori llwybrau beicio a cherdded newydd.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler dolenni Llywodraeth Cymru ar y dde, am wybodaeth ar y rheolaeth traffig gweler y manylion isod.
Ffordd ar gau dros y penwythnos
19 Ebrill (20:00) - 22 Ebrill (06:00)
- Bydd yr A40 ar gau i'r ddau gyfeiriad o gylchfan Penblewin a Robeson Wathen i hwyluso'r cysylltiad rhwng pont newydd yn Redstone a'r A40 presennol.
Cau ar y rhwydwaith cyfagos
19 Ebrill (20:00) - 17 Mai (20:00)
- Bydd allanfa ogleddol Redstone Road Arberth ar gau. Gwneir pob ymdrech i ail-agor y ffordd yn gynharach os yn bosib.
Gwyriad pan fydd y ffordd ar gau dros y penwythnos
Mynediad ac allanfa ar gyfer cerbydau nwyddau trwm yn dod i fewn i Narberth pan fydd y ffordd Redstone ar gau o 22 Ebrill
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TrafficWalesS.