Dyddiad cychwyn: Haf 2021 | Dyddiad gorffen: Hydref 2023
Gwaith i wella’r ffordd rhwng Llanddewi Felffre, Penblewin a Redstone Cross. Bydd yr A40 rhwng Sanclêr a Hwlffordd yn cael ei uwchraddio i wella diogelwch ac i ymgorffori llwybrau beicio a cherdded newydd.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler dolenni Llywodraeth Cymru ar y dde, am wybodaeth ar y rheolaeth traffig gweler y manylion isod.
Ionawr 2022
Bydd signalau dwy ffordd yn cael ei sefydlu mewn nifer o ardaloedd ar hyd yr A40 rhwng yr oriau 09:30 - 15:30 o 10/01/22 - 14/01/22.
Bydd terfyn cyflymder 30mya mewn grym trwy'r prosiect. Mae hyn i ddiogelu'r cyhoedd a'r gweithwyr y ffordd.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gau ffyrdd llawn ar y gweill.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruD