Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Hawliadau

Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru ac yn rheoli'r broses o adennill hawliadau am ddifrod trydydd parti i eiddo Llywodraeth Cymru. Mae ein timau hefyd yn casglu gwybodaeth ac yn cydlynu rheolaeth y broses o amddiffyn hawliadau yn erbyn Llywodraeth Cymru.

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer yr holl gefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru. Yn ogystal, mae Gweinidogion Cymru yn berchen ar asedau megis strwythurau, tir ac eiddo.

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i gynnal y briffordd a'i hasedau a bydd yn ceisio adennill costau am unrhyw ddifrod i'w ffyrdd, traffyrdd ac asedau gan y trydydd parti yr ystyrir eu bod yn atebol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i bob hawliad o ddifrod a bydd yn rheolydd data ar gyfer y data personol a dderbynnir. Mae'n rhaid inni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn inni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ymchwilio a gweinyddu ein hawliad, sef Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn y drefn honno. I gael gwybodaeth am sut rydym yn prosesu data personol sy'n ymwneud â hawliadau trydydd parti, cyfeiriwch at ein polisi preifatrwydd
 

Gwybodaeth am y broses hawliadau os ydych chi wedi bod mewn damwain ar ein rhwydwaith ffyrdd