Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Traffig.Cymru

Defnyddio'r wefan hon

Traffig Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

•    newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
•    nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
•    gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
•    gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
•    gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:


•    nid oes penawdau ar ffrydiau CCTV fideo byw
•    nid yw rhai elfennau map yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
•    nid oes testun arall da ar gyfer rhai delweddau
•    nid yw rhai o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
•    e-bostiwch [email protected]
•    ffoniwch 0300 123 1213.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

•    Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: [email protected].

Gallwch hefyd ein ffonio neu gysylltu â ni drwy’r post.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Traffig Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Problem â PDFs a dogfennau eraill

 Dydi rhai o’r dogfennau PDF ddim yn diwallu safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrin.

Rydym yn bwriadu unai i trwsio rhain neu eu ail-osod fel tudalen HTML hygyrch erbyn Rhagfyr 2020. 
 

Problemau â delweddau, fideos a sain

Nid oes testun arall addas ar gyfer delweddau ar dudalennau bob amser. Nid oes testun arall addas ar gyfer rhai delweddau ac mae testun anghyflawn ar gyfer eraill. Rydym yn bwriadu adnabod a datrys y rhain erbyn Rhagfyr 2020.

Nid oes penawdau ar ffrydiau fideo CCTV byw. Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu penawdau at ffrydiau fideo byw gan fod fideo byw wedi’i eithrio rhag diwallu’r rheoliadau hygyrchedd.

Problemau ag elfennau rhyngweithiol a thrafodion

Nid yw rhai elfennau mapiau yn gwbl hygyrch â darllenwyr sgrin, oherwydd mae angen rhyngweithio â'r map er mwyn arddangos blychau.

Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwyr trydydd parti i wella'r agwedd hon yn y dyfodol. Mae ein diweddariadau traffig dwyieithog ar gyfer digwyddiadau a gwaith ffordd sylweddol ar gael mewn fformat testun ar y dudalen Rhybuddion Traffig Ffyrdd a thrwy fformatau eraill.

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar Gorffennaf 30. Cynhaliwyd y prawf gan S8080 Ltd. Gwnaethom brofi cyfuniad o dempledi craidd, templedi cyffredin a thempledi cymhleth.

Gwnaethom brofi’r canlynol: •    prif blatfform ein gwefan, yn https://traffig.cymru

Paratowyd y datganiad hwn ar Medi 22ain 2020. Diweddarwyd ddiwethaf ar Medi 22ain 2020.