Dyddiad Cychwyn: 10/02/25 | Dyddiad Gorffen: 21/02/25 rhwng 19:00 – 07:00
10 Chwefror -21 Chwefror - 19:00- 07:00
Bydd y gwaith yn ymestyn ar hyd yr A40 Stryd Beaufort o Barc Busnes Elvicta i'r gyffordd â Standard Street yng Nghrughywel. Mae'r gwaith yn cynnwys ail-wynebu'r ffordd gerbydau am oddeutu 300m a rhai mân welliannau i'r llwybrau troed. Mae'r gwaith hwn yn angenrheidiol i fynd i'r afael ag ardaloedd o fethiant a dirywiad gan ddarparu arwyneb rhedeg llyfn a diogel i ddefnyddiwr y ffordd a gwella llwybrau troed i gerddwyr. Bydd y lon yn cau i'r ddwy ffordd yn ystod y nos rhwng 19:00-07:00.
Yn ystod y cyfnod cau, bydd traffig yn cael ei wyro fel a ganlyn -
Bydd traffig sy'n teithio i'r dwyrain o ochr orllewinol y ffordd sydd ar gau yn cael ei wyro ar hyd yr A40 i gyfeiriad y gorllewin i Aberhonddu, yr A470 i'r de i Ferthyr Tudful, yr A465 i'r dwyrain i'r Fenni ac i'r gorllewin ar yr A40 i ochr ddwyreiniol y ffordd sydd ar gau: ac i'r gwrthwyneb i draffig sy'n teithio i'r gorllewin. Dylai pob traffig arall (nad ydynt yn gerbydau) aros wrth y pwyntiau cau nes gellir eu tywys/cyfeirio trwy'r rhan sydd wedi'i chau. Gweler Atodiad C am Gynllun y Gwyriad.
Dewch o hyd i'r map dargyfeirio yma:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG a Facebook @TrafficWalesG.