Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A40 Trefynwy: Uwchraddio signalau traffig

Dyddiad Dechrau: 21/10/2024 | Dyddiad Gorffen: 20/12/2024

Goleuadau Trefynwy A40 Monmouth Lights

Mae'r signalau traffig ar gyffordd yr A40 a'r A466/Pont Gwy yn Nhrefynwy yn cael eu newid oherwydd mae'r dechnoleg yn hen. Bydd y gwaith hwn, pan fydd wedi'i gwblhau, yn helpu i wella llif y traffig. Bydd y gwaith uwchraddio yn dechrau ar 21 Hydref 2024 ac yn parhau am naw wythnos.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 9 wythnos dros nos rhwng 20:00 a 06:00 o ddydd Sul i ddydd Gwener, o dan oleuadau traffig dros dro.

Bydd y goleuadau traffig dros dro yn cael eu rheoli â llaw yn ystod oriau brig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Yr oriau brig yw 06:00 i 09:30 a⁠ 15:00 i 18:30.

Bydd angen cau ffyrdd yn achlysurol dros nos ar yr A40 a'r A466 fel a ganlyn, rhwng 20:00 a 06:00. Gall y gwaith ail-wynebu arwain at lefel uwch na'r arfer o sŵn ar adegau. Gwneir pob ymdrech i leihau’r sŵn cyn gymaint â phosibl.

24-25 Tachwedd (20:00-06:00)

  • A40 tua'r gogledd ar gau rhwng 20:00 i 6:00 for 1 noson ar gyfer gwaith ail-wynebu.         

25-26 Tachwedd (20:00-06:00)

  • A40 tua'r de ar gau rhwng 20:00 i 6:00 for 1 noson ar gyfer gwaith ail-wynebu.

29-29 Tachwedd (20:00 – 06:00)

  • Bydd yr A40 tua'r gogledd ar gau o 20:00 i 6:00 am 3 noson.

Bydd gwasanaethau brys sy'n teithio yn yr ardal yn gallu mynd drwy'r gwaith dan gyfarwyddyd y contractwr.

Bydd y llwybrau cerdded yn parhau i fod ar agor neu bydd llwybrau cerdded dros dro yn cael eu darparu am gyfnod llawn y gwaith. 

Darperir mynediad i gerddwyr ar draws Pont Gwy bob amser. Yn ystod y cyfnod cau a drefnwyd ar gyfer Pont Gwy, bydd gweithiwr ar gael i gynorthwyo ac arwain cerddwyr ar draws y bont, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny yn ystod rhai gweithrediadau penodol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â gwasanaeth Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X neu Facebook.