Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A465 i'r dwyrain o Aberdulais

Dyddiad cychwyn: 03/02/25 | Dyddiad gorffen: 04/04/25 

A465 east of Aberdulais

Bydd gwaith atgyweirio concrid hanfodol ar ffordd gerbydau’r A465 tua’r dwyrain rhwng Aberdulais a Chwm-gwrach yn dechrau ar 03/02/2025.

3 Chwefror - 04 Ebrill (20:00-06:00)

  • Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros nos ble bydd y ffordd gerbydau tua’r dwyrain rhwng naill ai Aberdulais a Resolfen neu Resolfen a Chwm-gwrach ar gau yn llawn.

24 Chwefror (08:00)- 28 Chwefror (05:00)

  • Bydd A465 Aberdulais tua'r dwyrain ar gau. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i ddarparu man gweithio diogel.

Bydd mwyafrif o'r gwaith yn digwydd wrth gau ffordd dros nos pan fo llif y traffig yn hanesyddol is, a hynny i leihau aflonyddwch. Bydd lonydd ar gau yn  ystod y diwrnod trwy gydol y gwaith er mwyn caniatau amser i'r concrid caledu.

Dargyfeirir traffig yn Aberdulais ar hyd yr A4109 a B4242. O Resolfen, dargyfeirir traffig ar hyd yr A4242.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TraffcWalesS.