Dyddiad dechrau: 04/11/2024 Dyddiad gorffen: 14/12/2024
Bydd gwaith hanfodol i ymdrin â choed peryglus ger cefnffordd yr A465 rhwng Llandarsi ac Aberdulais yn dechrau ar 04/11/2024 am 6 wythnos (gan weithio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig).
Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod y dydd (9:30-15:30) ac yn ystod y nos (20:00-06:00) gan gau y lôn a'r llain galed yn bennaf.
Bydd angen cau rhai slipffyrdd yn llwyr yn ystod y rhaglen waith, er mwyn i'r parthau diogelwch angenrheidiol fod yn eu lle.
Bydd gwyriadau (gydag arwyddbyst) yn eu lle pan fo lonydd yn cael eu cau'n llwyr.
4-6 Tachwedd
- Lôn ymadael Aberdulais tua'r de ar gau dros nos 20:00-06:00.
6-13 Tachwedd
- Lôn ymuno Aberdulais tua'r de ar gau dros nos 20:00-06:00.
** Noder, gallai'r rhaglen newid.
Gwyriad pan fydd y lôn ymadael Aberdulais tua'r de ar gau
Bydd traffig sy'n ymadael â'r A465 yn Aberdulais drwy'r slipffordd ymadael tua'r de, yn parhau tua'r de ar yr A465 gan ymadael ar y slipffordd ymadael tua'r de yng Nghastell-nedd. Yno, bydd y traffig yn teithio ar hyd Cyfnewidfa Castell-nedd ac yn ymuno â ffordd gerbydau'r A465 ar hyd ffordd ymuno yr A465 tua'r gogledd. Bydd y traffig wedyn yn teithio tua'r gogledd ac yn ymadael yr A465 yn Aberdulais ar hyd slipffordd ymadael yr A465 tua'r gogledd.
Gwyriad pan fydd y lôn ymuno Aberdulais tua'r de ar gau
Bydd traffig sy'n ymuno â'r A465 yn Aberdulais drwy slipffordd fynediad tua'r de, yn lle hynny yn teithio ar hyd cylchdro Aberdulais gan ymuno â ffordd gerbydau'r A465 tua'r gogledd ar hyd slipffordd ymuno yr A465 tua'r gogledd. Bydd y traffig wedyn yn teithio tua'r gogledd i Resolfen gan lywio cylchdro Resolfen a dychwelyd tua'r de ar yr A465 i Aberdulais.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TrafficWaleS.