Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A483 Llanfair-ym-Muallt Gwaith Ail-wynebu

Dyddiad dechrau : 03/03/25 | Dyddiad gorffen : 21/03/25

Streetview picture of the A483 Builth Wells

Gwaith ail-wynebu hanfodol ar wyneb y ffordd gerbydau a gwelliannau i'r droedffordd.

3 Mawrth (19:00) - 21 Mawrth (07:00)

Bydd angen cau'r A470 o Ffordd yr Orsaf o'i chyffordd gyda'r Strand (A483) hyd at Gylchfan Llanelwedd yn llwyr i ymgymryd â gwaith Cam 1 a bydd hyn yn digwydd rhwng 19:00 a 07:00 (pan fydd llai o draffig). Fel rhan o’r gwaith rheoli traffig arfaethedig bydd rheolaeth arwyddion traffig ar Gylchfan Llanelwedd.  Gweler Atodiad B i weld yr ardal fydd yn cael ei chau a'r llwybr gwyro arfaethedig.

 

Dylai'r holl draffig arall (nad ydynt yn gerbydau) aros wrth y pwyntiau cau nes gellir eu tywys/cyfeirio trwy'r rhan sydd wedi'i chau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy⁠ X @TraffigCymruG neu Facebook @TrafficWalesN.