Dyddiad Cychwyn: 24/03/2025 | Dyddiad Gorffen: 31/03/2025
Gwaith i ail-wynebu rhan 1.3km o’r A494 rhwng Sarnau a Chefn Ddwysarn, i gychwyn ar 24 Mawrth.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros gyfnod o wythnos o dan reolaeth goleuadau traffig aml-ffordd a system hebrwng traffig. Nid oes angen cau’r ffordd a dargyfeirio traffig.
Bydd mwyafrif y gwaith yn cael ei wneud rhwng yr oriau 07:30 a 18:00. Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud dros nos ar 28 Mawrth a 31 Mawrth yn ystod yr oriau 18:00 – 06:00.
Nid oes angen gwyriadau. Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith