Dyddiad Dechrau: 24/02/25 | Dyddiad Gorffen: 28/02/25
Gwaith i adnewyddu marciau ffordd ac arwyddion yng Nghyffordd 19 Glan Conwy yn dechrau ar 24/02/2025 am bedair noson.
Bydd y gwaith yn cael eu cynnal dros bedair noson rhwng 20:00 - 6:00 gyda amryw o lonydd ar gau, cau ffordd ymadael C19 tua’r gorllewin yn gyfan, a chau’r mynediad i gyfnewidfa Glan Conwy o’r A547 yn gyfan gwbl.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud dros nos ym mis Chwefror pan fo llif y traffig yn hanesyddol is er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
24/02/25 – 28/02/25
Lonydd ar gau ar y ffyrdd ymadael ac ymuno Glan Conwy.
25/02/25 – 28/02/25
Cau’r ffordd ymadael tua’r gorllewin yn gyfan gwbl.
26/02/25 – 28/02/25
Cau mynediad A547 i Gyfnewidfa Glan Conwy.