Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A55 Cyffordd 24 i Gyffordd 25 - Atgyweiradau Pont Primrose Hill

Dyddiad Dechrau: 26/01/25 | Dyddiad Gorffen: 02/03/25

Structural beam damage

Gwaith atgyweirio strwythurol hanfodol i bont Primrose Hill yn dilyn ergyd i'r bont a arweiniodd at anffurfio nifer o'r trawstiau cynradd.

 

Nod y gwaith sythu gyda gwres yw adfer y capasiti cario strwythurol llawn. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud drwy gau'r ffordd yn llwyr tua'r dwyrain rhwng C24 Abergele a C25 Bodelwyddan. 

Bydd gwaith yn cael ei wneud dros nos rhwng 20:00 a 06:00 gan ddechrau ar 26 Ionawr 2025, gyda'r bwriad o orffen y gwaith ar 2 Mawrth 2025.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud drwy gau'r ffordd gerbydau yn llwyr tua'r dwyrain (rhwng C24 ar ffordd ymadael Abergele a C25 Bodelwyddan). 

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio yn ffordd ymadael C24 (Abergele) i'r dwyrain, o amgylch cylchfan yr A547 gan ddychwelyd ar ffordd ymuno'r A55 tua'r dwyrain drwy gyffordd C27 ⁠Llanelwy.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy⁠ X neu Facebook.