Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Adnewyddu Dec Pont Maes y Gwernen - Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Bydd gwaith i adnewyddu dec Pont Maes y Gwernen yr M4 yn ddechrau ar Gorffennaf 18 am chwe wythnos.

Bydd Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn cynnal rhaglen o waith adnewyddu llawn ar ddec y bont i gadw uniondeb strwythurol y bont. Mae tros-bont Maes y Gwernen yn flaenoriaeth uchel ar raglen strategaeth rheoli pontydd pen-isel.

Bydd angen cau'r ffordd yn llwyr i adnewyddu'r bont dan amodau gwaith diogel i'n gweithlu.

Nid yw'n ymarferol gwneud y gwaith gwrth-ddŵr ac ail-wynebu, trwy gau lonydd. Byddwn angen mynediad i'r ardal dec llawn i alluogi'r gwaith ymarferol ac ar gyfer diogelwch y gweithlu.

Bydd ACDC yn dechrau'r cynllun trwy gau un llwybr troed tua'r dwyrain am bythefnos, fydd yn cynnal dwy lôn o draffig. Wedyn bydd y ffordd yn cael ei chau yn llawn yn ystod gwyliau haf yr ysgolion. Mae'r dyddiadau fel a ganlyn: Cau llwybr troed sengl tua'r dwyrain - Dechrau 7 Gorffennaf hyd at 18 Gorffennaf. Cau'r ffordd yn llwyr - Gan ddechrau 18 Gorffennaf hyd at 29 Awst.