Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Clirio coed peryglus ar yr M4 rhwng C35 a C37 (Tua'r dwyrain a thua'r gorllewin)

Dyddiad Dechrau: 13/10/24 | Dyddiad Gorffen: 16/11/24

M4 J37 Trees

Bydd gwaith hanfodol i ymdrin â choed peryglus ger traffordd yr M4 rhwng C35 (Cyfnewidfa Pencoed) a C37 (Cyfnewidfa Y Pîl) yn dechrau ar 13/10/2024 am 25 noson (gan weithio o ddydd Sul i ddydd Gwener yn unig). 

Cynhelir gwaith dros nos rhwng 20:00 a 06:00, fydd yn effeithio lonydd yn bennaf. Bydd rhaid iddynt gau weithiau. 

Bydd angen cau rhai ffyrdd ymadael yn llwyr yn ystod y rhaglen waith, er mwyn i'r parthau diogelwch angenrheidiol gael eu gosod. Bydd gwyriadau (gydag arwyddbyst) yn eu lle pan fo lonydd yn cael eu cau'n llwyr**

Cau'r Ffordd Ymadael Tua'r Gorllewin yn Llwyr Dros Nos yng Nghyffordd 37

13/10/2024 – 18/10/2024

Cau'r Ffordd Ymuno Tua'r Dwyrain yn Llwyr Dros Nos yng Nghyffordd 37

20/10/2024 – 25/10/2024

** Noder os gwelwch yn dda, y gall y rhaglen newid.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X neu Facebook.