Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Cyffordd A487 Comins Coch (C1007) i gyffordd C1010 sy'n arwain at Brifysgol Aberystwyth - Llwybr Teithio Llesol

Dyddiad cychwyn: Hydref 2024 | Dyddiad gorffen: Ionawr 2025

Byddwn yn adeiladu llwybr aml-ddefnydd ar hyd yr A487 i gysylltu cyffordd Comins Coch (C1007) gyda chyffordd C1010 sy'n arwain at Brifysgol Aberystwyth/Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng Hydref 2024 ac Ionawr 2025. 

16 Hydref 2024 i 17 Ionawr 2025 - A487 yn agored i'r holl draffig dan reolaeth traffig dros dro (goleuadau traffig)

Bydd y gwaith yn cael ei wneud heb fod angen cau unrhyw ffordd, er hynny bydd goleuadau traffig dwy-ffordd dros dro yn cael eu defnyddio am 24 awr y dydd yn ystod rhai cyfnodau adeiladu. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i symud yr holl reolaeth traffig dros dro o'r rhwydwaith yn ystod hanner tymor yr Hydref.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG a Facebook@TraffcWalesG.