Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Cynnal a Chadw’r A48 Traphont Afon Nedd a Doc Llansawel

Dyddiad Dechrau: 22/03/24 | Dyddiad Gorffen: Ebrill 2024

A48 Bont Llansawel Bridge

cynnal a chadw hanfodol ar ochr isaf Traphont yr A48 Afon Nedd a Doc Llansawel.

Bydd y gwaith yn cynnwys atgyweirio draeniau, cynnal a chadw rhwydi ac archwiliadau strwythurol i ymdrin â risgiau diogelwch ar y strwythur. 

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan beri cyn lleied o aflonyddwch â phosib i’r ardal leol.

Bydd angen goleuadau i’r ddau gyfeiriad i gynnal y gwaith uwchben y ffyrdd mynediad ger iard ailgylchu Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl yr angen; bydd y ffordd ar agor bob amser i draffig trwodd ac ni fydd mynediad i'r iard ailgylchu wedi'i gyfyngu.   

Ni fydd gwyriadau mewn lle. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter a Facebook.