Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gwaith ail-wynebu A470 Llanrwst (cilfan Meadow Vale at y Bont Fawr)

Dyddiad dechrau : 27/01/2025 | Dyddiad gorffen : 06/02/2025

Picture of the A470 at Llanrwst

Bydd gwaith ail-wynebu’r ffordd am oddeutu 1.1km o’r A470 yn Llanrwst rhwng cilfan Meadow Vale a'r Bont Fawr yn cychwyn ar 27 Ionawr 2025 am oddeutu 3 wythnos.

Mi fydd y gwaith yn digwydd gyda rheolaeth goleuadau traffig a system yn hebrwng traffig i fynd drwy’r safle.


Bydd cyfnod cyntaf y gwaith (27/01/2025 - 06/02/2025 yn ddibynnol ar sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo) ac yn cael ei gwblhau yn ystod y dydd, tra bydd ail gyfnod y gwaith (06/02/2025 - 18/02/2025) yn cael ei gwblhau fel cyfuniad o waith yn ystod y dydd a gwaith yn ystod y nos (rhwng yr oriau 17:00 - 02:00 yn fras) pan fo traffig fel arfer yn is er mwyn lleihau unrhyw anhwylustod a achosir drwy hyn.


Caiff pob llwyth anghyffredin dros 3.0 medr o led ei atal rhag teithio trwy'r gwyriad.

Dim gwyriad yn ei le.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy⁠ X neu Facebook.