Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Rhwydwaith ffyrdd Cymru yn croesawu'r symudiad llwyth annormal mwyaf yn ei hanes

abnormal laod aerial view of road

Bydd rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru yn cyfrannu'n hanfodol at ddiogelwch ynni drwy gludo tri llwyth annormal sy'n torri record ym mis Ionawr: trawsnewidydd, tyrbin a generadur. Mae'r llwythi hyn, y trymaf erioed yng Nghymru, gyda phwysau cerbydau unigol o hyd at 588 tunnell.

Bydd y trelar a ddefnyddir i gludo'r llwyth yn mesur, tua 6.7 metr o led, 78 metr o hyd a bydd ganddo 28 echel. Bydd y llwyth annormal yn cychwyn ar ei daith 38 milltir yn Nociau Casnewydd, yna bydd yn llywio'r ffyrdd yr A48, yr A449, yr A40 a'r A465 yn ofalus cyn cyrraedd y safle yng Ngorsaf Bŵer Hirwaun.


Dim ond drwy ddefnyddio rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru y gellir cwrdd â'r heriau a ddaw yn sgil lleoliad y safle yn hytrach na cheisio eu cyflawni ar y rheilffyrdd.

abnormal load aerial view of road overnight
abnormal load travelling under a bridge

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r mudiad yn gofyn am gydweithio gofalus ag ystod o bartneriaid gan gynnwys: Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) a Chymoedd y Dyfodol, y ddau yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru; Pŵer Hirwaun; Allelys, y cludwyr arbenigol, a llu cyfunol o Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru a fydd yn hebrwng y llwythi drwyddi draw. Mae misoedd o baratoi, cynllunio ac asesu wedi digwydd i sicrhau bod y 61 o strwythurau y bydd y llwyth yn eu tramwyo yn gallu ei gario'n ddiogel. Yn ogystal, mae union amseriadau'r symudiad wedi'u cydgysylltu'n ofalus â phrosiect deuoli'r A465 presennol.

Unwaith y bydd y tyrbin, y generadur a'r trawsnewidydd wedi cyrraedd y safle, byddant yn helpu i reoli sefydlogrwydd y grid pŵer cenedlaethol. Bydd y seilwaith hwn yn cael ei ddefnyddio yn ystod cyfnodau o alw trydan brig a phan na all technolegau adnewyddadwy ysbeidiol gynhyrchu'r pŵer sydd ei angen i gadw'r wlad i redeg. Ni fydd Gorsaf Bŵer Hirwaun yn gweithredu mwy na 1,500 awr y flwyddyn ac o'r herwydd, bydd yn helpu'r wlad i bontio i economi carbon is. Bydd ei gapasiti 299MW yn cynhyrchu digon o drydan i bweru mwy na 150,000 o aelwydydd o fewn ychydig funudau.

Dywedodd Richard Jones, Pennaeth Gwasanaeth SWTRA: "Rydym yn falch iawn o allu hwyluso'r symudiad hwn ar ein rhwydwaith cefnffyrdd. Mae llawer o waith caled wedi digwydd rhyngom ni a phartneriaid allweddol i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni gyda'r amhariad lleiaf posibl i seilwaith y rhwydwaith a'r bobl sy'n ei ddefnyddio."