Hoffai’r Tîm Profiad Defnyddwyr/Ymchwil Defnyddwyr yn Llywodraeth Cymru ymgysylltu â defnyddwyr Traffig Cymru er mwyn casglu’ch safbwyntiau ar sut i wella’ch Profiad Defnyddwyr a deall anghenion a heriau pob defnyddiwr.
Y syniad yw ymgysylltu ag ystod eang o ddefnyddwyr sydd ag anghenion gwahanol i sicrhau bod defnyddioldeb gwefan ac ap Traffig Cymru yn gweithio i bawb. Bydd Tîm Lab Profiad Defnyddwyr/Ymchwil Defnyddwyr yn cynnal Ymchwil Defnyddwyr ar ran Tîm Traffig Cymru.
Byddwch yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon o’ch gwirfodd, ond mae safbwyntiau a phrofiadau swyddogion yn bwysig er mwyn helpu i lywio gwasanaeth digidol sy’n gweithio i bob Defnyddiwr.
Fel rhan o’r ymchwil, bydd angen i’r Tîm Lab Ymchwil Defnyddwyr/Profiad Defnyddwyr gasglu’r wybodaeth bersonol a’r wybodaeth categori arbennig canlynol:
• enw
• e-bost gwaith
• unrhyw namau a allai effeithio ar y ffordd rydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth digidol
• eich llun (ffoto neu fideo)
• eich llais (fideo a/neu sain)
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni’r rôl graidd a swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Os yw’r wybodaeth yn cyfateb i ddata categori arbennig, byddwn yn ei phrosesu yn y budd cyhoeddus sylweddol o sicrhau cyfle cyfartal, fel y nodir yn y Canllawiau ar GDPR.
Ni fydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu ar gyfer yr ymchwil hon yn cael ei rannu y tu allan i Dîm Lab Ymchwil Defnyddwyr/Profiad Defnyddwyr neu aelodau Tîm Traffig Cymru. Ni fydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru at unrhyw ddibenion eraill.
Mae’r gweithgareddau posibl y gallech chi fod yn eu gwneud yn cynnwys llenwi arolwg, cyfweliad defnyddwyr a/neu sesiwn profi defnyddioldeb.
Hoffai Tîm Lab Ymchwil Defnyddwyr/Profiad Defnyddwyr recordio Cyfweliadau a Phrofion Defnyddioldeb Rhithiol (techneg a ddefnyddir i brofi gwasanaethau gyda Defnyddwyr). Bydd hyn yn cael ei esbonio’n glir i chi cyn y sesiwn. Os nad ydych chi am gael eich recordio bydd gennych chi’r opsiwn i ddewis peidio ar ddechrau’r cyfweliad neu’r sesiwn brofi. Byddwch yn gallu cymryd rhan o hyd ac ni fydd modd eich adnabod o’ch sylwadau.
Os ydych chi’n dewis darparu gwybodaeth bersonol bellach fel rhan o’r ymchwil, ni fyddwn yn eich adnabod, nac yn cysylltu pwy ydych chi ar sail yr ymatebion y byddwch yn eu rhoi. Os ydych chi’n gofyn cwestiwn neu’n cyflwyno cwyn ac yn darparu data personol gan ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen ond at y swyddog perthnasol yn unig ac yna’n ei ddileu o’r data ymchwil.
Bydd recordiadau yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd Tîm Traffig Cymru wedi derbyn pob awgrym ac nad oes angen y recordiadau mwyach. Ni fydd data personol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad terfynol a bydd yn cael ei waredu yng nghyfnod dadansoddi’r Profion Defnyddioldeb. Bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi’i waredu yn cael ei ddileu dri mis ar ôl diwedd y prosiect.
Dyma fanylion cyswllt ymgysylltu:
Gary Bennett E-bost: [email protected]
|
Tia Mais E-bost: [email protected]
|
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:
• gael eich hysbysu o’r data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch a’i gyrchu
• ei gwneud yn ofynnol i ni wirio unrhyw wallau yn y data hwnnw
• (dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
• (dan amgylchiadau penodol) i’ch data gael ei ‘ddileu’
• (dan amgylchiadau penodol) symud data
• cyflwyno cwyn i Swyddog y Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Os hoffech gysylltu â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Swyddog Diogelu Data,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ
E-bost: [email protected]
Fodd bynnag, byddwn yn delio â’ch cais sut bynnag y byddwch chi’n cysylltu â ni.
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk