Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Pecyn Gwybodaeth i Gludwyr

System reoli traffig newydd yw Ymgyrch Cybi (Operation Cybi) i helpu lleihau aflonyddwch traffig ac oedi i yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs) ym Mhorthladd Caergybi o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

simplified ferry diversion route from Holyhead port to junction 4 a55

Cyfarwyddiadau i yrwyr HGV sydd wedi cael eu troi'n ôl o Borthladd Caergybi oherwydd gwallau yn y dogfennau angenrheidiol

Os ydych chi wedi cael eich troi yn ôl o'r man derbyn ym Mhorthladd Caergybi o ganlyniad i waith papur annigonol neu anghywir, bydd angen i chi gael y dogfennau cywir cyn ceisio mynd ar long eto.  Gofynnir i chi adael y porthladd gan ddilyn llwybr y gwyriad sydd wedi'i amlinellu yn y ddogfen hon.


Mae'r llwybrau gwyriad yn caniatáu i chi aros yn agos at y porthladd gan ddarparu lle i chi ddatrys unrhyw broblemau gwaith papur fel y medrwch barhau gyda'ch siwrnai gyda cyn lleied o aflonyddu â phosib.  Mae'r llwybrau wedi eu marcio gyda siapiau o wahanol liw i sicrhau eu bod yn hawdd i'w dilyn. Yn ogystal, darperir cyfleusterau toiledau i yrwyr HGV yn yr holl safleoedd gofodau aros.

Bydd llwybr y sgwâr glas yn eich cyfarwyddo o'r porthladd yn ôl ar yr A55 drwy'r gwrthlif. Yna, bydd angen i chi adael yng Nghyffordd 4. Yma byddwch yn cael eich tywys o amgylch y cylchfannau gan ail-ymuno â'r A55 ar y gerbydlon tua'r gorllewin fel y dangosir uchod.  


Os ydych yn cael eich troi yn ôl o'r porthladd sicrhewch eich bod yn dilyn llwybr y gwyriad sgwâr glas yn ôl i Gyffordd 4 ar yr A55. 

Dilynwch unrhyw arwyddion/neu gyfarwyddiadau a gewch gan y stiwardiaid yng ngofod aros yr A55.  Pan fyddwch yn barod i groesi'r ffin Ewropeaidd bydd gwasanaeth hebrwng ar gael oddeutu bob 30 munud i hebrwng traffig HGV yn ddiogel ac yn effeithlon o ofod aros yr A55 yn lôn 2. Peidiwch â cheisio gadael y gofod aros heb gerbyd hebrwng.  Mae hyn er mwyn eich diogelwch chi, gyrwyr HGV eraill a'r stiwardiaid.
 


Cyfarwyddiadau i yrwyr HGV sy'n teithio i Borthladd Caergybi, pan nad yw'r porthladd bellach yn medru prosesu traffig fferi sy'n gadael 

Os ydych ar eich ffordd i Borthladd Caergybi a bod oedi sylweddol i groesi gyda'r fferi byddwch yn cael eich cyfarwyddo oddi ar y ffordd yng nghyffordd 4 tua'r gorllewin cyn i chi gyrraedd y porthladd.  Mae hyn yn berthnasol i'r holl yrwyr HGV os ydynt yn barod i groesi'r ffin ai peidio.  

Bydd hyn yn sicrhau bod digon o le i'r HGVs a fu'n oedi i gyrraedd y porthladd yn ddiogel heb achosi aflonyddu sylweddol i draffig lleol. 

Byddwch yn cael eich cyfeirio i fynd i ofod aros yr A55 yng Nghyffordd 4.

Os ydych yn anwybyddu'r cyfarwyddyd yma bydd mwy o oedi cyn i chi fynd ar y llong gan y bydd yn rhaid i chi ymuno â chefn y rhes unwaith eto.

Byddwch wedyn yn cael eich rhyddhau o'r ardal hon mewn sypiau pan fo Awdurdod y Porthladd yn barod i dderbyn traffig HGV.

Mae cyfleusterau toiled ar gael i yrwyr HGV sy'n cael eu dal yng ngofod aros yr A55 bob 500m. Gofynnir yn garedig i chi aros yn eich cerbyd yn ystod yr amser yma gan gydymffurfio gyda rheoliadau covid ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill a roddir i chi gan y stiwardiaid.  Mae hyn i sicrhau eich diogelwch chi ac eraill:-

Rheolau Safle Gofodau Aros yr A55 a Hysbysiad i'r holl Yrwyr 

Missing media item.

Cyfyngiad cyflymder o 10mya drwy'r safle yma.  

Missing media item.

Parciwch yn syth ar hyd lôn 1 (lôn fewnol) fel y cewch eich cyfarwyddo gan staff y safle.

Peidiwch â pharcio oddi fewn na rhwystro Lôn 2 (Lôn Allanol). 

Missing media item.

Peidiwch â cherdded ar hyd na mynd i Lôn 2 (Lôn Allanol).

Missing media item.

Ni ddylid ymgymryd ag unrhyw waith atgyweirio i'r cerbyd, newid teiar nac olwyn.Mae gwasanaeth adfer rhad ac am ddim ar gael  

Missing media item.

Lleolir cyfleusterau toiled ar hyd y llain galed.  

Missing media item.

Nid oes unrhyw gyfleusterau bwyta nac ymolchi yn y safle yma.

Nid oes unrhyw fwyd na diod yn cael ei werthu yn y safle yma .

Missing media item.

Peidiwch â thaflu sbwriel a defnyddiwch y biniau a leolir ar y llain galed. 

Missing media item.

Gadewch y safle ar gyfarwyddyd drwy reolaeth signal traffig. Mae holl symudiadau'r traffig o dan gyfarwyddyd staff y safle. 

Missing media item.

Pan fyddwch yn y gofod aros gadewch le digonol rhwng eich cerbyd a'r cerbyd o'ch blaen i ganiatáu i chi adael y gofod aros os/pan fo angen.  

Missing media item.

Dylech wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn gadael eich cerbyd.  

Missing media item.

Cadwch bellter cymdeithasol o 2m bob amser. 

Missing media item.

Golchwch eich dwylo yn drylwyr.

  Missing media item.

Dylai pob gyrrwr a theithwyr aros yn neu ger eich cerbyd. 

  Missing media item.

Dylai anifeiliaid aros yn eich cerbyd.

  Missing media item.

Dylech adrodd am unrhyw hylif a gollwyd (olew, derv, petrol ac ati) i staff y safle.  

Thank you for your patience and cooperation.