Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A465 Castell-nedd i Aberdulais (Tua'r Dwyrain a Thua'r Gorllewin)

Dyddiad Cychwyn: 27/10/2025| Dyddiad Gorffen: 31/10/2025

Bydd gwaith hanfodol i roi sylw i goed sy'n beryglus ger yr A465 rhwng Castell-nedd a Resolfen i'r ddau gyfeiriad yn dechrau ar 27/10/2025 am 5 noson.     

 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y nos rhwng 20:00 a 06:00 gan ddefnyddio trefn o gau lonydd a'r llain galed gan mwyaf; fodd bynnag, bydd angen cau rhai slipffyrdd yn gyfan gwbl er mwyn cael y parthau diogelwch angenrheidiol yn eu lle. Bydd arwyddion gwyriad yn cael eu gosod pan fo lonydd yn cael eu cau'n llwyr. 

Cau'r Lonydd yn Llwyr

Ffordd Ymadael Aberdulais tua'r Dwyrain  (27/10/2025 – 28/10/2025)

Ffordd Ymuno Aberdulais tua'r Dwyrain (28/10/2025 – 29/10/2025)

Ffordd Ymadael Aberdulais tua'r Gorllewin (29/10/2025-30/10/2025)

Ffordd Ymuno Aberdulais tua'r Gorllewin  (30/10/2025-31/10/2025)

**Sylwch, gallai'r rhaglen waith newid.

Ffordd Ymadael Aberdulais tua'r Dwyrain

Bydd traffig sydd eisiau gadael yr A465 ar ffordd ymadael Aberdulais tua'r dwyrain yn parhau tua'r dwyrain ar yr A465, o gwmpas cylchfan Resolfen ac yn dychwelyd tua'r gorllewin ar yr A465. Wedyn bydd y traffig yn gadael yr A465 ar hyd ffordd ymadael Aberdulais tua'r gorllewin ac yn mynd o gwmpas cylchfan Dulais Fach i ymuno â chyfnewidfa Aberdulais.

Ffordd Ymuno Aberdulais tua'r Dwyrain 

Bydd traffig sydd eisiau ymuno â ffordd ymuno Aberdulais tua'r dwyrain yn mynd ar gyfnewidfa Aberdulais yn lle, tuag at gylchfan Dulais Fach i ymuno â'r A465 ar ffordd ymuno Aberdulais tua'r gorllewin ac yn parhau i'r gorllewin ar yr A465, yn mynd ar gyfnewidfa Castell-nedd ac yn defnyddio ffordd ymuno Castell-nedd i ymuno â'r A465 tua'r dwyrain.

Aberdulais Westbound Off-Slip

Bydd traffig sydd eisiau gadael yr A465 ar ffordd ymadael Aberdulais tua'r gorllewin yn parhau tua’r gorllewin hyd at gyfnewidfa Castell-Nedd ac yn defnyddio’r cyfnewidfa i ddefnyddio’r ffordd ymuno tua’r dwyrain ar yr A465 ac yn parhau tua’r dwyrain. Bydd traffig yn gadael yr A465 gan ddefnyddio’r ffordd ymadael Aberdulais tua’r dwyrain, i ymuno â chyfnewidfa Aberdulais.

Aberdulais Westbound On-Slip

Bydd traffig sydd eisiau ymuno â’r A465 ar ffordd ymuno Aberdulais tua'r gorllewin yn defnyddio cylchfan Dulais Fach tuag at gyfnewidfa Aberdulais, yna yn ymuno â’r A465 tua’r dwyrain gan ddefnyddio ffordd ymuno Aberdulais tua’r dwyrain. Bydd traffig yn parhau tua’r dwyrain cyn cyrraedd cylchfan Resolfen, ac yna yn ôl tua’r gorllewin ar yr A465.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X a Facebook.