Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A465 Resolfen i Glyn-nedd i gyfeiriad y Gogledd - Gwaith Atgyweirio/Gosod Troshaen Concrid

Dyddiad dechrau : 08/09/2025 | Dyddiad gorffen : 17/10/2025

Gwaith i ymgymryd â gwaith ail-wynebu hanfodol a gwaith atgyweirio concrid ar ffordd gerbydau'r A465 Resolfen i Glyn-nedd i ddechrau ar 08/09/2025 tan 17/10/2025. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 6 wythnos rhwng 20:00 a 06:00 a bydd y ffordd gerbydau tua'r dwyrain rhwng Resolfen a Glyn-nedd yn cau yn llwyr.

Bydd ffordd gerbydau'r A465 tua'r dwyrain yn cau'n llwyr rhwng cylchfan Resolfen a chylchfan Glyn-nedd rhwng 20:00 a 06:00 o'r 08 Medi 2025 i'r 17 Hydref 2025, nosweithiau'r wythnos yn unig o ddydd Llun i ddydd Gwener. (nid yw'n cynnwys y penwythnosau)  

Bydd un lôn yn cau ar ffordd gerbydau'r A465 tua'r dwyrain rhwng cylchfan Resolfen a chylchfan Glyn-nedd rhwng 06:00am a 20:00pm o'r 8 Medi 2025 i'r 17 Hydref 2025 yn ystod y dydd yn unig, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.  ⁠ ⁠⁠ ⁠

Cau un lôn am 24 awr ar ffordd gerbydau'r A465 tua'r dwyrain rhwng cylchfan Resolfen a chylchfan Glyn-nedd gan ddechrau ar 13 Medi 2025 i'r 13 Hydref o 06:00am i 06:00am ar ddyddiau Sadwrn a Sul yn unig.

Bydd y gwaith yn digwydd dros nos ym mis Medi/Hydref pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn is, a hynny i leihau'r aflonyddwch.

Dargyfeirir traffig sy'n mynd tua'r dwyrain oddi ar ffordd gerbydau'r A465 yn allanfa B4434, gan deithio am 130m cyn troi i'r dde i'r B4242. Parhewch ar y B4242 am 5.3km nes i chi gyrraedd cyffordd wrth Canolfan Feddygol Cwm Nedd, trowch i'r dde i'r B4242 gan barhau am 340m a dychwelyd i'r man cau ar gylchfan A465 Glyn-nedd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X a Facebook.