Dyddiad cychwyn: 20/10/2025 | Dyddiad gorffen: 24/10/2025
Yr A479 o Gwmdu i Dalgarth - Cynnal a Chadw ac Arolygiadau Cylchol Arferol (5 diwrnod 08:00 – 15:30)
Bydd y gwaith i gynnal archwiliadau a chynnal a chadw priffyrdd cylchol arferol hanfodol i ran 12 km o gefnffordd yr A479 rhwng Cwmdu a Thalgarth yn dechrau ddydd Llun 20/10/2025 am 5 diwrnod.
Mae'r oriau gwaith wedi'u rhaglennu i fod rhwng 0800 o'r gloch a 1530 o'r gloch bob dydd ac o ddydd Mawrth 21/10/2025 tan ddydd Iau 23/10/25 bydd y ffordd hefyd ar gau yn ystod yr oriau hyn.
Bydd y ffordd ar gau rhwng cilfan 'Iron Bridge', Cwmdu a Chylchfan Talgarth yr A479/B4560, Talgarth. Bydd mynediad llawn ar gael hyd at y pwyntiau cau.
Caniateir mynediad wedi ei reoli i'r Gwasanaethau Brys a bysiau Trafnidiaeth Cyhoeddus fynd drwy'r rhannau wedi cau. Bydd trefniadau tebyg ar waith i ganiatáu i breswylwyr/cwsmeriaid/gweithwyr gael mynediad i'r eiddo a'u gadael o fewn y cyfnod cau, ond bydd oedi.
Llwybr swyddogol y gwyriad wedi'i arwyddo fydd yr A479 i Fronllys, yr A438 i Bontybat, yr A470 i Aberhonddu, yr A40 i Nantyffin gan ailymuno â'r A479, ac i'r gwrthwyneb i gerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad croes.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @Traffig.CymruG