Bydd yr A465 yn newid i 2 lon yn y ddau gyfeiriad yn gyffordd Glanbaiden rhwng Gilwern i gylchfan Brynmawr.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect yma, weler y manylion Llywodraeth Cymru ar y dde, am wybodaeth rheolaeth draffig weler yn fanylion isod.
Mae'r prosiect hwn ar waith ar 8km o ffordd yr A465, rhwng Brynmawr a Gilwern. Adeiladwyd yr A465 presennol yn y 1960au a nododd astudiaeth draffig yr angen i wella'r ffordd trwy:
- gwneud y ffordd yn fwy diogel, yn enwedig o amgylch cyffyrdd ac ardaloedd sydd â gwelededd gwael
- gwella llif traffig a'i gwneud hi'n fwy diogel goddiweddyd
Er mwyn cwblhau'r gwaith ffordd cymhleth a hirdymor hwn, ar adegau, bydd angen i'r contractwr:
- gostwng y ffordd o 3 lôn i 2,
- cau rhannau o'r ffordd dros nos neu dros benwythnosau,
- defnyddio goleuadau traffig i reoli llif traffig yn ystod y gwaith.
Gellir gweld y llwybrau’r gwyriad a chynlluniau ffordd diweddaraf yma: https://a465.info/official-diversion
Bydd modd croesi ffordd gerbydau’r A465 yn Saleyard o Station Road yn y de i Main Road yn y gogledd ac fel arall. Bydd modd croesi’r ffordd gerbydau, gan ddefnyddio ffyrdd ymyl, yng Ngilwern o Station Road yn y de i Main Road yn y gogledd ac fel arall.
Mae protocol ar waith i alluogi cerbydau brys i fynd trwy’r gwaith yn ystod y cyfnod cau ac i ailagor y ffordd os bydd problemau ar yr M4.
A467 Cylchfan Blaenavon i Cylchfan Brynmawr
Cau'r ffordd tua'r gogledd o 02/07/22 07:00 i 03/07/22 18:00 am gwaith draenio.
Gallai’r dyddiadau gael eu newid am resymau amrywiol, fel tywydd gwael. Am diweddariadau i’r prosiect ewch i: https://www.facebook.com/A465Adran2/
Bydd gwaith ffordd a fydd yn amharu'n sylweddol ar deithio yn cael eu nodi ar dudalen y wefan hon, apiau ffonau clyfar iPhone a Google Android ac ar Twitter @TraffigCymruD.
Dilynwch @A465_Adran2 ar Twitter a Facebook https://www.facebook.com/A465Adran2/ am diweddariadau i’r prosiect.
Ar gyfer ymholiadau neu gwynion cymunedol, ffoniwch 0845 600 2664 neu ebostiwch [email protected].