Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Darparu Gwelliannau ar y M4 Casnewydd

Long shot of M4 mptorway in South Wales with cars and lorries.

Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru  yn gyfrifol am weithredu, cynnal a gwella traffyrdd a phrif ffyrdd  ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio'n ddiflino i wella diogelwch gyrrwyr ac i leihau tagfeydd ar y rhan prysur hon o'r M4.

Am fwy o wybodaeth gwelwch isod:-


Disodli'r terfyn cyflymder amrywiol gyda rheolaeth cyflymder cyfartalog 50mya

Bydd gwaith yn cael ei ymgymryd i ddisodli'r terfyn cyflymder amrywiol presennol gyda rheolaeth cyflymder cyfartalog o 50mya o amgylch cyffordd 24 Coldra i gyffordd 28 Parc Tredegar. Mae'r gwaith hwn wedi'i rhaglennu i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2021. 

Disgwylir bydd y gwaith hwn yn:-

  • helpu i reoli tagfeydd ar hyd y darn hwn o'r M4.
  • gwella dibynadwyedd amseroedd teithio yn ystod yr oriau brig a darparu llif traffig llyfnach.
  • lleihau'r risg o wrthdrawiad.
  • darparu ansawdd aer gwell wrth i lefelau allyriadau llygredig gostwng.
llun o'r draffordd M4 cyffordd 24-28

Swyddogion Traffig Ychwanegol

Ers mis Rhagfyr 2019 rydym wedi cynyddu y nifer o Swyddogion Traffig o thua 60%. Bydd hyn yn ein galluogi i wella ein hamseroedd ymateb ac ymestyn patrolau ar yr A48 a'r A4810 yng Nghasnewydd. Ar hyn o bryd rydym yn comisiynu cerbydau Swyddog Traffig ychwanegol fel y gallwn gyflwyno darpariaeth yn yr ardaloedd hyn wrth weithio mewn confoi cerbydau deuol. Mae hyn yn caniatáu inni gydymffurfio â rheolau pellter cymdeithasol wrth barhau i ddarparu'r gwasanaeth.

Unwaith y bydd y cerbydau Swyddog Traffig newydd yn barod a llif traffig yn dychwelyd i lefelau arferol, byddwn yn ymestyn patrolau'r Swyddogion Traffig i'r A48 a'r A4810 yng Nghasnewydd.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda'r datblygiadau diweddaraf yn ogystal â'n sianeli cyfryngau cymdeithasol @TrafficWalesD

South Wales Traffic Officers in front of cars

Gwella canllawiau lôn ac arwyneb y ffordd ar
M4 tua'r gorllewin C25 Caerllion i C25A Afon Wysg

Mae tua 120,000 o gerbydau yn teithio’r darn prysur hwn o’r M4 bob dydd. Mae'r prosiect hwn yn hanfodol i wella diogelwch gyrwyr, llif traffig a phrofiad defnyddwyr ffyrdd.

 Yn ogystal ag rhoi arwyneb newydd y gerbytffordd, byddwn yn darparu marciau cyrchfan lôn ychwanegol i hyrwyddo disgyblaeth lôn. Bydd marciau ffordd datblygedig ar y cyd â'r arwyddion cyfredol, yn helpu atal newidiadau lôn hwyr ac yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i ddefnyddwyr y ffordd i ddefnyddio'r lonydd cywir.

variable message sign on m4 saying arhoswch yn eich lon stay in your lane