Mewn cam arwyddocaol tuag at wella bioamrywiaeth a chefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfer natur, mae asiantau cefnffyrdd Cymru wedi plannu mwy na 30,000 o goed, llwyni a gwrychoedd brodorol ledled Cymru yn ystod tymor plannu y llynedd.
Yn ystod gaeaf 2024-25 plannodd Asiant Cefnffyrdd De Cymru (ACDC) 18,683 o goed a llwyni brodorol ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yn Ne Cymru. Mae'r fenter hon yn cefnogi ymdrechion i wella ecosystemau lleol, darparu cynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt, a gwella'r dirwedd weledol ar hyd coridorau trafnidiaeth allweddol.
Yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, plannodd yr Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) 11,861 o goed a llwyni brodorol. Roedd hyn yn cyfateb i 1,926 o goed a 1987 metr o wrychoedd brodorol, gan ddefnyddio 9,935 o blanhigion unigol. Bydd y gwrychoedd hyn yn gweithredu fel coridorau bywyd gwyllt hanfodol a atalfeydd gwyt naturiol, gan gyfrannu at sefydlogrwydd pridd a dal carbon wrth atgyfnerthu treftadaeth naturiol y rhanbarth.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o Llwybr Newydd i Natur – y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar drawsnewid ymylon ffyrdd a llwybrau trafnidiaeth yn goridorau ecolegol ffyniannus. Mae'r fenter yn cefnogi adferiad natur trwy blannu llystyfiant brodorol, gwella nodweddion ffin fel gwrychoedd a waliau cerrig, a chreu cynefinoedd gwell ar gyfer peillwyr, adar a mamaliaid bach. Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael yn: Llwybr Newydd i Natur – y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer ein Rhwydwaith Ffyrdd Strategol | LLYW.CYMRU
Dewiswyd y rhywogaethau i blannu'n ofalus am eu gwerth ecolegol a'u haddasrwydd i bridd lleol ac amodau hinsawdd. Mae pob plannu yn dilyn canllawiau arfer gorau i sicrhau sefydlogrwydd hirdymor a budd ecolegol.
Mae'r rhaglen blannu hon yn rhan o strategaeth amgylcheddol ehangach gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantau cefnffyrdd i hyrwyddo seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy sy'n gweithio mewn cytgord â'r amgylchedd naturiol.