Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Gwasanaeth Camerâu Teledu Cylch Cyfyng

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dros 200 o gamerâu traffig i gynorthwyo gyda rheoli traffig ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd.

Mae'r camerâu traffig fel arfer wedi'u gosod ar fastiau camerâu ar ymyl y gwair neu ar isadeiledd presennol ochr y ffordd (arwyddion neges a nenbontydd).Prif ddefnyddwyr y camerâu monitro traffig yw ein dwy Ganolfan Rheoli Camera - Canolfan Rheoli Traffig Gogledd a Chanolbarth Cymru, a Chanolfan Rheoli Traffig De Cymru.

Mae delweddau llonydd o deledu cylch cyfyng y rhwydwaith ffyrdd sydd yn cael eu harddangos ar wefan Traffig Cymru, yn cael eu hadnewyddu bob 5 munud. Efallai y bydd achosion pan na fydd delwedd camera ar gael oherwydd cynnal a chadw camera yn barhaus neu os bydd Traffig Cymru yn rheoli digwyddiad ar y ffordd.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw: cyflawni tasg er budd y cyhoedd i fonitro rhediad effeithlon a diogel y rhwydwaith.

Camerâu Cylch Cyfyng - Crynodeb o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Nid yw system teledu cylch cyfyng Monitro Traffig Llywodraeth Cymru wedi'i chynllunio i ddal gwybodaeth bersonol, fodd bynnag, weithiau gall brosesu rhifau cofrestru a delweddau.

Mae camerâu teledu cylch cyfyng hefyd wedi'u gosod yn fflyd Cerbydau'r Swyddog Traffig ac mae gan bob cerbyd arwyddion priodol. Mae gan bersonél Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru hefyd ddyfeisiau recordio fideo a sain at ddibenion diogelwch personol a monitro digwyddiadau. Er y gall y systemau hyn gofnodi gwybodaeth bersonol o bosibl (e.e. Rhifau Cofrestru Cerbydau) yn fwy manwl na theledu cylch cyfyng safonol, mae'r prif bwrpas y mae'r delweddau hyn yn cael ei brosesu ar ei gyfer yn parhau i reoli digwyddiadau a thraffig.

Mae'r data teledu cylch cyfyng Llywodraeth Cymru yn cael ei gadw am 14 diwrnod ac ar ôl hynny caiff ei ddileu yn awtomatig. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau ni fydd y data teledu cylch cyfyng yn cael ei rannu, fodd bynnag, mae rhai eithriadau lle gallwn rannu'r wybodaeth gyda:

• Y gwasanaethau brys ar gyfer atal neu ganfod trosedd, neu bwrpas diogelwch;
• Trydydd partïon, e.e. cyfreithwyr, cwmnïau yswiriant, aelodau'r cyhoedd at ddibenion yswiriant; a
• Pobl neu sefydliadau eraill sydd â phwerau cais statudol.