Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Parod at y gaeaf

Trunk Roads in winter collage

Mae ein gwasanaeth gaeaf yn rhedeg rhwng Hydref 1af hyd at ddiwedd Ebrill pob blwyddyn. Mae ein gweithgareddau wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i barhau ar eich taith yn ddiogel.

Ar ddechrau pob gaeaf rydym yn anelu i storio dros 200,000 tunnell o halen yn ein hysguboriau. Rydym yn defnyddio hwn i drin oddeutu 1900 cilomedr o lwybrau graenu yng Nghymru. Ar gyfartaledd, fel rheol cynhelir 87 noson o wasgaru halen yn ystod tymor y gaeaf 212 diwrnod.

Er mwyn helpu i gadw modurwyr yn symud, mae gennym ni 171 * o raeanwyr mewn 39 ddepo wedi'u lleoli'n strategol ar draws y rhwydwaith. * Mae nifer ohonynt yn cwmpasu'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Mae'r peiriannu graeanu yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn gweithio ar y ffyrdd sir a chefnffyrdd.


Beth rydyn ni'n ei wneud yn ystod y gaeaf

Mae ein staff yn y ganolfan Rheoli Traffig yn gweithredu 24 awr y dydd. Maent yn defnyddio camerâu ffyrdd, data llif traffig a rhagolygon tywydd ar y ffyrdd i nodi'r amser gorau i wneud gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf.

Maent yn gweithio'n agos gyda'n Swyddogion Traffig, partneriaid cynnal a chadw a'r gwasanaethau brys. Maen nhw'n defnyddio'r holl wybodaeth hon i benderfynu pa ardaloedd bydd yn cael eu graeanu, yn lleihau terfynau cyflymder ac yn gosod arwyddion uwchben i rybuddio modurwyr o dywydd garw ac amodau ffyrdd.


Beth allwch chi ei wneud yn ystod y gaeaf

ffordd yn yr eira

Pan fydd y tywydd yn wael, gofynnwch i chi'ch hun:

  • Oes angen i fi deithio nawr neu alla' i aros nes bod y tywydd yn gwella?
  • Ddylwn i gynllunio llwybr gwahanol?
  • Ydw i wedi edrych a oes oedi neu dywydd gwael ar fy nhaith?
  • Ydy'r car yn barod i'r daith?
  • Ydw i wedi paratoi pecyn argyfwng?
  • A fydd angen i mi newid fy arferion gyrru i gyd-fynd â'r amodau?

Byddwch yn barod – cofiwch wneud yn siŵr fod eich cerbyd yn barod ar gyfer amodau anodd.

Byddwch yn effro – cofiwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am draffig a'r tywydd cyn gadael.

Hen brofiad cas yw torri i lawr - a phrofiad gwaeth fyth mewn tywydd oer a gaeafol. Gofalwch eich bod yn cynnal a chadw'ch cerbyd i safon uchel i'ch helpu chi ac eraill i fod yn ddiogel ar y ffordd .

  • Ewch â'ch cerbyd am wasanaeth a phrofwch y gwrthrewydd cyn dechrau'r gaeaf.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich batri mewn cyflwr da ac wedi'i wefru'n llawn.
  • Edrychwch ar  gyflwr eich teiars, a gofalwch fod y pwysedd a dyfnder y gwadn yn gywir.
  • Gofalwch fod eich weipars a'ch goleuadau i gyd yn lân ac yn gweithio.
  • Cadwch y sgrîn a'r ffenestri'n lân, a'r botel dŵr golchi'n llawn gyda digon o hylif gwrthrew i'w atal rhag rhewi.
  • Defnyddiwch y system aerdymheru i glirio anwedd yn gynt a chael llai o anwedd ar y ffenestri/sgrîn oer.

Cadwch yr eitemau hyn yn eich cerbyd ar ddechrau'r gaeaf - does wybod pryd y byddwch eu hangen.

  • Sgrafell iâ a dadrewydd
  • Tortsh a chyflenwad o fatris, neu dortsh weindio
  • Dillad cynnes a blancedi, i chi a'ch teithwyr
  • Sbectol haul (mae haul isel y gaeaf yn gallu'ch dallu)
  • Gwifrau cyswllt
  • Rhaw
  • Atlas ffordd
  • Esgidiau
  • Pecyn cymorth cyntaf

Os yw'r tywydd yn wael yn y bore, neu os yw'r rhagolygon yn darogan amodau anodd, gofynnwch i chi'ch hun: Oes rhaid imi deithio nawr, neu oes modd gohirio nes bod y tywydd yn gwella? Oes modd imi weithio gartref? Ydy'r ysgol ar gau? Oes modd newid yr apwyntiad? 

Os yw'ch taith yn hanfodol, ystyriwch pa ffordd o deithio yw'r orau. Dyw gyrru ddim yn syniad da os yw'r amodau'n gwaethygu oni bai bod rhaid gwneud. Gadewch ddigon o amser ar gyfer eich taith ac os oes modd dwedwch wrth rywun ar ben arall y daith pryd rydych yn disgwyl cyrraedd. 

Cadwch lygad neu glust am ragolygon y tywydd a'r traffig. Oes angen i chi gynllunio llwybr arall?

Mae Traffig Cymru'n darparu gwybodaeth a delweddau camerau cylch cyfyng ar gyfer rhwydwaith cefnfyrdd a thraffyrdd Cymru ar y wefan hon, ar Trydar a Facebook @TraffigCymruD ar gyfer y De, a @TraffigCymruG ar gyfer y Gogledd a'r Canolbarth. Mae gwybodaeth am ffyrdd awdurdodau lleol ar radio lleol.

Gwnewch yn siŵr bod popeth gyda chi yn cynnwys eich pecyn argyfwng, bwyd, a diod gynnes mewn fflasg ac unrhyw feddyginiaeth sy'n rhaid i chi neu eich teithwyr ei chymryd yn rheolaidd. Gofalwch fod gennych chi ddigon o danwydd a'ch bod yn gwybod ble mae'r garejys cyfleus.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweld yn glir a bod pobl eraill yn eich gweld chi: goleuadau, ffenestri, drychau a phlatiau rhif glân. Tynnwch yr eira i gyd oddi ar eich cerbyd, gan gynnwys y to a'r boned, gan ei fod yn gallu taro pobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd.

Ar draffyrdd a chefnfyrdd Cymru, mae Asiantau Cefnffyrdd y De, y Gogledd a'r Canolbarth yn gweithio i atal rhew rhag casglu ac yn tynnu unrhyw eira a rhew oddi ar wyneb y ffordd. Awdurdodau lleol sy'n gofalu am y ffyrdd eraill i gyd. Mae'r ddau asiant yn gweithio'n galed i gadw'r rhwydweithiau'n glir yn ystod tywydd gwael, ond does dim modd trin pob ffordd ac mae'n rhaid i chi fod yn fwy gofalus ar ffyrdd bach.

Hyd yn oed os yw amser a lleoliad yr eira wedi'i ragweld yn berffaith, mae dal angen amser i glirio'r eira ar ôl iddo ddisgyn a thrin y ffordd â halen i leihau perygl o iâ. Nid dim ond yr halen sy'n helpu i dorri drwy'r eira a'r iâ, ond y llif cyson o draffig hefyd.

Cofiwch, does dim modd i aradr eira gyrraedd ei gwaith os yw'r draffordd yn llawn o gerbydau sy'n methu mynd ymhellach, felly rhowch gyfle i'r tîmau wneud eu gwaith a'ch helpu chi i fynd ar eich taith: cadwch bellter diogel rhyngoch chi â cherbydau cynnal a chadw'r ffyrdd yn y gaeaf.

Pan fyddwch chi ar y ffordd, cadwch lygad ar unrhyw amodau sy'n newid o ran y traffig a'r tywydd. Byddwch yn barod i arafu a chymryd rhagor o amser os oes angen, yn enwedig pan fo troeon yn y ffordd neu'r dirwedd yn agored. Peidiwch ag anghofio'r peryglon - hyd yn oed os ydych chi'n teithio'r un ffordd bob dydd.

Gyrrwch ar gyflymder sy'n addas i'r amodau, gan gadw yn y gêr uchaf posibl i osgoi chwyrlïo a chofiwch frecio'n ofalus (gan newid i gêr isel  yn gyntaf). Mae'n gallu cymryd deg gwaith y pellter i stopio cerbyd mewn amodau rhewllyd.

Nid dim ond eira sy'n effeithio ar deithiau yn ystod y gaeaf. Dylai defnyddwyr ffyrdd hefyd addasu eu gyrru ac ystyried y risg gynyddol o:

  • Haul isel: Paratowch drwy gael sbectols haul wrth law a gofalu bod eich ffenest flaen yn lân y tu mewn a thu allan.
  • Llifogydd a dŵr yn casglu: Osgowch yrru yn yr amodau hyn os gallwch - ydych chi'n gwybod pa mor ddwfn yw'r dŵr? Gofalwch fod eich breciau'n gweithio ar ôl gyrru drwy ddŵr.
  • Niwl: Gyrrwch ar gyflymder sy'n eich galluogi i stopio yn y pellter y gallwch weld yn iawn. Defnyddiwch eich prif oleuadau a'ch goleuadau niwl yn iawn a gofalwch nad ydych chi'n dallu gyrwyr eraill. Gall niwl fod yn wasgaredig - peidiwch â chyflymu'n sydyn, hyd yn oed os yw'n ymddangos fel petai'n clirio. Efallai y byddwch mewn niwl trwchus yn sydyn eto. Peidiwch â dilyn golau'r cerbyd o'ch blaen chi - efallai eich bod yn gyrru'n rhy agos ato.

Yn ystod eich taith, cofiwch y cwestiwn pwysig hwn:

  • Pe bai'n rhaid imi frecio'n sydyn mewn argyfwng, a fyddwn i'n gallu stopio'n ddiogel o fewn y pellter y gallaf ei weld yn glir o'm blaen?

Mae rhagor o gyngor ar yrru dan amodau tywydd gwael ar gael yn Rheolau'r Ffordd Fawr.

Ar y prif lwybrau, bydd negeseuon teithio pwysig i'w gweld ar arwyddion wrth ochr y ffordd, sy'n eich rhybuddio o oedi gan awgrymu llwybrau teithio amgen.

Gallwch hefyd wrando ar yr orsaf radio leol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y traffig a'r tywydd.

Ar deithiau hir, cofiwch gymryd seibiant yn rheolaidd - ac mae hefyd yn gyfle delfrydol i ddarganfod beth yw amodau'r traffig a'r ffordd o'ch blaen.

Ar ôl parcio'ch cerbyd yn ddiogel, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar eich ffôn symudol, eich ffôn clyfar neu'ch gliniadur.  Peidiwch byth â stopio ar y llain galed i wneud hyn na defnyddio'ch ffôn symudol wrth yrru.

Lawrlwytho’r ap Traffic Wales Traffig Cymru ar gyfer iPhone ac Android.

Dilynwch ni ar Trydar a Facebook @TraffigCymruD ar gyfer y De neu @TraffigCymruG ar gyfer y Gogledd a'r Canolbarth.