Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A40 Glangrwyne-Ffin Lloegr: Clirio Coed Peryglus

Dyddiad dechrau : 02/09/2024 | Dyddiad gorffen : 11/10/2024

Bydd gwaith hanfodol i fynd i'r afael â choed peryglus a nodwyd ger cefnffordd yr A40 rhwng ffin Glangrwyne Powys a ffin Lloegr yn dechrau ar 02/09/2024 (yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig).

 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud naill ai gyda'r nos rhwng yr oriau 20:00-06:00 neu yn ystod y dydd rhwng yr oriau 9:30-15:30.

Bydd lonydd yn cael eu cau i hwyluso'r rhan fwyaf o'r gwaith; fodd bynnag, bydd angen cau'r A40 rhwng Pyscodlyn a Glangrwyne tua diwedd y rhaglen er mwyn darparu'r parthau diogelwch angenrheidiol. Bydd gwyriadau wedi'u harwyddo yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer traffig arferol a Cerbydau Nwyddau Trwm.

A40 Cylchfan Hardwick i Gyfnewidfa Rhaglan

2 Medi 09:30 - 6 Medi 15:30

Bydd lonydd yn cau am 24 awr i'r ddau gyfeiriad i hwyluso'r gwaith yn y rhan hon.

A40 Rhaglan i Dwneli Gibraltar

9-13 Medi 9:30-15:30

Cau lonydd yn ystod y dydd am 5 diwrnod a lonydd yn ystod y nos am 2 noson i'r ddau gyfeiriad.

A40 Twneli Gibraltar i Dixton

16-19 Medi 20:00-06:00

Lonydd yn ystod y nos yn cau i'r ddau gyfeiriad am 3 noson.

A40 Dixton i'r ffin â Lloegr

19-21 Medi a 23-25 ​​Medi 20:00-06:00

Lonydd yn cau yn ystod y nos i'r ddau gyfeiriad am 4 noson.

A40 Pyscodlyn i Langrwyne 

25-28 Medi 20:00-06:00 

Cau ffordd yn llawn dros nos i'r ddau gyfeiriad am 3 noson.

A40 tua'r gorllewin – Traffig sydd ddim yn Gerbyd Nwyddau Trwm

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio tua'r de ar hyd yr A4143 ac i'r A465 tua'r gorllewin yn Llan-ffwyst. Bydd traffig yn gadael yr A465 ar gylchfan Glanbaiden ac yn parhau i deithio tua'r gogledd-orllewin ar hyd yr A4077, croesi Pont Crucywel ac ail-ymuno â'r A40.

A40 tua'r dwyrain – Traffig sydd ddim yn Gerbyd Nwyddau Trwm

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio tua'r de ar hyd yr A4077, croesi Pont Crucywel a pharhau tua'r de-ddwyrain. Bydd traffig yn ymuno â'r A465 ac yn teithio tua'r dwyrain, gadael yr A465, parhau tua'r gogledd ar hyd yr A4143 ac ail-ymuno âr A40.

A40 tua'r gorllewin – Cerbydau Nwyddau Trwm

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio tua'r de ar hyd yr A4143, parhau tua'r gorllewin ar yr A465 yn Llan-ffwyst. Bydd traffig yn gadael yr A465 ac yn teithio tua'r gogledd ar hyd yr A470 yng Nghefn Coed cyn ail-ymuno â'r A40 yn Aberhonddu ar hyd y ffordd tua'r dwyrain.

A40 tua'r dwyrain – Cerbydau Nwyddau Trwm

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio tua'r gorllewin ar hyd yr A40 cyn ymuno â'r A470 tua'r de yn Aberhonddu i Cefn-coed. Bydd traffig yn gadael yr A470 ac yn teithio tua'r dwyrain ar hyd yr A465, gadael yr A4143 tua'r gogledd yn Llan-ffwyst ac yn parhau tua'r gogledd i ail-ymuno â'r A40.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruD a Facebook @TrafficWalesS.